Mater - penderfyniadau
Action Tracking
27/02/2019 - Action Tracking
Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad cynnydd ar gamau’n deillio o gyfarfodydd blaenorol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at y ffaith nad oedd camau wedi’u cymryd yngl?n â chostau ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir oedd yn risg fawr a rannwyd gan yr holl Gynghorau. Gan nad oedd hyn wedi’i gydnabod yn Setliad Terfynol Llywodraeth Leol ar gyfer 2019/20 gan Lywodraeth Cymru (LlC), awgrymodd fod y Pwyllgor yn gweithredu drwy ysgrifennu at LlC gyda chefnogaeth gan Gynghorau eraill.
Dywedodd y Prif Weithredwr er nad oedd unrhyw ddarpariaeth benodol wedi’i gwneud, ei bod yn bosibl i amrywiadau gael eu dyrannu gan LC yn ddiweddarach. Dywedodd fod y Cyngor Llywodraeth Leol wedi cyflwyno achos cryf gyda thystiolaeth i LlC ar y mater dros gyfnod o amser ac efallai y bydd Aelodau’n dymuno trafod y ffordd ymlaen ar y cyd fel rhan o’r eitem gyllideb yn y Cyngor Sir ar 29 Ionawr.
Awgrymodd y Cynghorydd Shotton os oedd y Pwyllgor yn awyddus i gyflwyno achos o’r fath yna gellid cysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn ogystal â LlC, i rannu gwybodaeth a goladwyd ar draws y Cyngor. Awgrymodd y gallai hyn arwain at achos mwy effeithiol ac efallai gynnwys y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol.
I baratoi tuag at y cyfarfod o’r Cyngor Sir, awgrymodd y Prif Weithredwr ei fod yn cysylltu â CLlLC i gael eu cefnogaeth i godi’r mater yn ffurfiol eto gyda LlC ac i’r eitem gael ei thrafod yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor Gwaith CLlLC. Cynigiwyd y cam hwn gan y Cynghorydd Jones yn ogystal â llythyr gan y Pwyllgor i dynnu sylw at y pryderon. Cynhaliwyd pleidlais, a chytunwyd ar hyn.
Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Heesom, Cynghorydd Carolyn Thomas, rhoddodd Aelod Cabinet dros Strydlun a Chefn Gwlad – oedd yn bresennol yn yr oriel gyhoeddus - eglurhad ar faterion cludiant. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddent yn gofyn i LlC rannu manylion cynllun ‘Llwybr Coch’ A494-A55 gyda’r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad; ac
(b) Anfon llythyr at Lywodraeth Cymru a CLlLC i gynnig yn ffurfiol gyllideb genedlaethol newydd a phenodol i gwrdd ag amcangostau ychwanegol Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir drwy Gymru.