Mater - penderfyniadau

North Wales Learning Disability Strategy

30/01/2019 - North Wales Learning Disability Strategy

            Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru a oedd yn nodi’r weledigaeth ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i bobl ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru.  Roedd yn cynnwys gwybodaeth am anghenion y boblogaeth a beth oedd yn bwysig iddyn nhw, pa newid oedd y Cyngor am ei weld a sut fyddai’r strategaeth yn cael ei gweithredu.  Roedd y strategaeth yn mynd i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i’w chymeradwyo ym mis Tachwedd.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y weledigaeth ar gyfer Gogledd Cymru yn seiliedig ar beth roedd pobl wedi dweud wrth y Cyngor oedd yn bwysig iddyn nhw, sef y byddai gan bobl ag anableddau dysgu ansawdd bywyd gwell, byw yn lleol lle roeddent yn teimlo’n ‘saff ac iach’, lle roeddent yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys yn eu cymunedau a lle roeddent yn cael mynediad i gefnogaeth bersonol effeithiol a oedd yn hyrwyddo annibyniaeth, dewis a rheolaeth. 

 

Byddai pum pecyn gwaith yn nodi sut byddai pethau’n cael eu newid er mwyn sicrhau bywydau da i bobl ag anableddau dysgu.

 

Roedd rhoi’r strategaeth ar waith yn cael goblygiadau o ran adnoddau i staff a materion ariannol i’r chwe awdurdod lleol a BIPBC.  Byddai’r goblygiadau o ran adnoddau yn cael eu paratoi yn fanwl fel rhan o waith datblygu’r pum pecyn gwaith.  Roedd cynnig wedi’i gyflwyno i Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru i ofyn am gefnogaeth gyda’r costau ychwanegol a disgwyliwyd ymateb cadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru yn cael ei chymeradwyo.