Mater - penderfyniadau
Annual Performance Report 2017 /2018
07/12/2018 - Annual Performance Report 2017 /2018
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i ardystio Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18 cyn ei gyhoeddi erbyn y dyddiau cau. Dyma adroddiad statudol yn rhoi trosolwg ôl-weithredol o berfformiad yn cyflawni’r blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.
Dosbarthwyd sleidiau’r cyflwyniad fel papur cyfeirio a thrafodwyd y canlynol:
· Adroddiad Perfformiad Blynyddol
· Cynllun y Cyngor 2017-23
· Fformat a chynnwys
· Trosolwg Ar Berfformiad 2017/18
· Trosolwg o’r Cynnydd
· Uchafbwyntiau
· Meysydd i’w gwella
· Trosolwg ar Berfformiad – Cynllun y Cyngor
· Trosolwg o’r Crynodeb
· Y Camau Nesaf
Dywedodd y Cynghorydd Attridge bod y wybodaeth wedi cael ei rannu gydag Aelodau Trosolwg a Chraffu. Symudodd yr argymhelliad yn yr adroddiad gyda’r Cynghorydd Butler yn eilio hynny.
Roedd y Cynghorydd Peers eisiau codi nifer o ymholiadau gyda Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol yn dilyn y cyfarfod. Ar gynnydd yn erbyn risgiau, adroddwyd bod 69.6% o’r risgiau yn aros yr un fath yn ystod y cyfnod ac wedi’u nodi yn y Gofrestr Risg (Atodiad 2 o’r adroddiad).
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18 i’w gyhoeddi.