Mater - penderfyniadau

Phase 2 Speed Limit Review Update

11/03/2019 - Phase 2 Speed Limit Review Update

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) adroddiad i ddarparu diweddariad ar gynnydd yr Adolygiad o Derfynau Cyflymder ar draws y Sir gyfan.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir ac esboniodd bod yr adroddiad yn ceisio diweddaru’r Pwyllgor ar y cynnydd a oedd wedi’i wneud hyd yma yn ogystal â darparu manylion nifer o heriau cyfreithiol yn erbyn y broses arfaethedig, sydd wedi’u goresgyn ers hynny.  Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio hysbysu’r Pwyllgor am yr amserlenni diwygiedig gyda chynnydd Gorchymyn Cyfunol Sengl sy’n cwmpasu’r rhwydwaith priffyrdd cyfan, ac esbonio’r cynigion hefyd er mwyn hwyluso ceisiadau aelodau a gefnogwyd gan feini prawf yr Adran Drafnidiaeth (DfT).

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y camau gweithredu allweddol a gynhaliwyd ac esboniodd, er mwyn diddymu’r orddibyniaeth ar Wasanaethau Cyfreithiol, roedd y swyddogion Strydlun a Thrafnidiaeth wedi datblygu system o dempledi cymeradwy a oedd wedi’u galluogi i gwblhau ‘Gorchymyn Sengl’ yn awr y byddai pob terfyn amser (y rhai presennol a’r rhai arfaethedig) yn cael eu hysbysebu.  Roedd defnyddio’r dull diwygiedig hwn wedi symleiddio’r weithdrefn orgymhleth flaenorol o safoni’r broses ysgrifennu gorchymyn ar gyfer unrhyw sefyllfa.

 

Gofynnodd y Prif Swyddog i’r Rheolwr Strategaeth Priffyrdd adrodd ar yr ystyriaethau allweddol yn yr adroddiad ar y cynnydd o gyflawni’r adolygiad o derfynau cyflymder ar bob priffordd gyhoeddus.  Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Priffyrdd, yn dilyn y cynnig i hysbysebu’r ‘Gorchymyn Sengl’ drwy ddefnyddio map modern yn seiliedig ar amserlen, yr oedd swyddogion wedi cwblhau map yn awr yn seiliedig ar system sy’n cynnwys rhwydwaith priffyrdd y Sir lle’r oedd Llyfrau Mapiau unigol wedi’u creu.  Roedd pob Llyfr Cyfeirio Map yn cynnwys system fynegeio glir a oedd yn galluogi aelodau’r cyhoedd i leoli ardaloedd o ddiddordeb yn uniongyrchol o fewn eu man preswylio ac ar draws y Sir.

 

Dywedodd y Prif Swyddog, er bod cynnydd wedi’i wneud gyda’r Gorchymyn Cyfunol, ni fu heb ei heriau, fel y’u nodir yn yr adroddiad.  Soniodd y Rheolwr Strategaeth Priffyrdd am yr heriau a dderbyniwyd o ran hysbysebu terfynau cyflymder 30mya a 60mya a chyfeiriodd at y ddeddfwriaeth genedlaethol o ran terfynau cyflymder a goleuadau stryd.  Aeth ymlaen i esbonio, at ddibenion terfynau cyflymder, y gallai goleuadau stryd for ar sawl ffurf wahanol a’u bod yn cynnwys colofnau goleuadau y mae’r Cyngor Sir yn berchen arnynt, Goleuadau Cymunedol a Goleuadau Llwybrau Cerdded.  Er bod systemau mewnol yr Awdurdod yn cofnodi safle pob un o’r Colofnau Goleuadau Stryd y mae’r Cyngor Sir yn berchen arnynt ac y maent yn eu cynnal a’u cadw, ni fyddai’n cynnwys y gwahanol ddosbarthiadau o oleuadau a ddisgrifiwyd, ac roedd yn bwysig sicrhau bod safle cywir pob colofn goleuadau stryd yn hysbys (waeth pwy sy’n berchen arnynt) cyn penderfynu a fyddai terfyn cyflymder o 30mya neu 60mya yn arwain at wneud gorchymyn.  Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Priffyrdd bod arolwg mewnol manwl wedi’i gomisiynu’n fewnol er mwyn cofnodi’r nifer o oleuadau stryd ar derfynau cyflymder 60mya a 30mya (waeth pwy sy’n berchen arnynt) a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn Hydref 2018.  Ar ôl ei gwblhau, bydd swyddogion yn ail-edrych ar ddata i benderfynu pa derfynau cyflymder sy’n cael eu rheoleiddio ‘yn ôl Goleuadau Stryd’ a’r terfynau cyflymder hynny y bydd angen eu rheoleiddio gyda gorchymyn.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog, o ganlyniad i’r oedi oherwydd heriau cyfreithiol, yr oeddent yn rhagweld y byddai Gorchymyn Sengl yn cael ei hysbysebu ar ddechrau 2019.  Ar ôl cwblhau’r broses statudol ofynnol, gellir cyfuno’r Gorchymyn Sengl a’r ceisiadau Aelodau, a oedd wedi’u cefnogi gan Feini Prawf DfT, gyda’r Adolygiad o Derfynau Cyflymder Cam 1 (a gwblhawyd ym mis Tachwedd 2016) a fyddai’n sicrhau na fyddai’r Cyngor yn meddu ar orchymyn sengl cyfunol a chydsyniol sy’n cwmpasu rhwydwaith priffyrdd y Sir.  Pan fydd y Gorchymyn Cyfunol Sengl mewn grym, cynhelir adroddiad 5 mlynedd o’r holl derfynau cyflymder presennol yn y Sir (ac eithrio ardaloedd sydd eisoes wedi’u harchwilio o fewn ceisiadau Aelodau) er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Meini Prawf DfT gydag unrhyw ddiwygiadau’n cael eu gwneud drwy ddiwygiad i’r prif Orchymyn Cyfunol.

 

Diolchodd yr Aelodau i’r Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) a’i dîm am eu gwaith ar yr adolygiad o derfynau cyflymder a’r rhwydwaith priffyrdd.

 

Yn ystod trafodaeth, fe ymatebodd swyddogion i’r cwestiynau a’r pryderon a godwyd gan yr Aelodau ynghylch gorfodi terfynau cyflymder a diogelwch ar ffyrdd gwledig a lonydd gwledig.  Esboniodd y Prif Swyddog nad oedd gan yr Awdurdod y p?er i orfodi terfynau cyflymder ond gallai ddarparu tystiolaeth olrhain i’r Heddlu pan fyddai angen.  Mewn ymateb i’r cwestiwn ar ddiogelwch ar ffyrdd gwledig, dywedodd y Rheolwr Strategaeth Priffyrdd bod yn rhaid hysbysu’r Heddlu i ddechrau am ddamweiniau, cyn y gallai’r Awdurdod weithredu.  Mewn ymateb i gwestiwn arall ar y gwrthwynebiadau i gynigion yr Awdurdod i hysbysebu a gweithredu terfynau cyflymder 30mya a 60mya, dywedodd y Prif Swyddog bod yr Awdurdod yn croesawu adborth ac yn gweithio’n gadarnhaol gyda gwrthwynebwyr er mwyn cyflawni’r nod cyffredinol o weithredu’r terfyn cyflymder cywir mewn ardal.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       I nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma a’r heriau cyfreithiol a’r newidiadau dilynol yn y dull gweithredu a oedd wedi arwain at oedi yn y broses;

 

(b)       I gefnogi’r broses gyfreithiol ddiwygiedig er mwyn symud ymlaen i gyflawni Gorchymyn Cyfunol Sengl.