Mater - penderfyniadau
Phase 2 Speed Limit Review Update
06/11/2018 - Phase 2 Speed Limit Review Update
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad gyda diweddariad ar Gam 2 o’r Adolygiad Terfyn Cyflymder a’r cynnydd a wnaed hyd yma yn ogystal â darparu manylion ar nifer o heriau cyfreithiol yn erbyn y broses arfaethedig a oedd erbyn hyn wedi eu goresgyn.
Darparodd yr adroddiad wybodaeth ar yr amserlenni diwygiedig yn ymwneud â chynnydd y Gorchymyn Sengl Wedi'i Gydgrynhoi yn ymwneud â’r rhwydwaith priffyrdd cyfan, tra hefyd yn egluro cynigion i hwyluso ceisiadau’r Aelodau hynny oedd yn cael eu cefnogi gan feini prawf yr Adran Drafnidiaeth.
Mae system o dempledi wedi’u cymeradwyo wedi cael eu datblygu a fyddai’n galluogi cwblhau 'Gorchymyn Sengl' lle y byddai'r holl gyfyngiadau cyflymder yn cael eu hysbysebu. Mae hynny wedi symleiddio'r weithdrefn flaenorol a oedd yn or-gymhleth gan safoni’r broses ysgrifennu archeb ar gyfer unrhyw achos posib.
Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) natur gymhleth y pryderon yngl?n â’r gwrthwynebiadau i’r gorchymyn cyfyngiad cyflymder wedi'i gydgrynhoi a oedd yn disgyn i ddau gategori (1) y rheiny oedd yn 30mya yn ddiofyn mewn system o Oleuadau Stryd lle na fyddai angen Gorchymyn neu’r cyfyngiadau cyflymder 30mya hynny nad oedd yn meddu ar system o oleuadau stryd lle byddai angen Gorchymyn; a (2) ffyrdd cyfyngiad cyflymder Cenedlaethol gyda goleuadau sydd angen gorchymyn i gael gwared ar y 30mya diofyn.
Mae manylion ar yr heriau cyfreithiol a wnaed ac a fu’n dileu’r broses i'w cael yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at nifer o sylwadau wedi’u gwneud yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd diweddar ar aelodau’r cyhoedd oedd wedi gwrthwynebu nifer o’r cyfyngiadau cyflymder yn y Sir er nad oedden nhw’n byw yn ymyl y ffyrdd hynny. Dywedodd bod y gwrthwynebwyr yn poeni’n fawr am gyfyngiadau cyflymder yn y Sir ac yn rhannu’r cymhellion i sicrhau fod cyfyngiadau cyflymder priodol yn eu lle ar bob ffordd, a ddim i danseilio dilysrwydd y cyfyngiadau cyflymder ym mhobman. Eu rôl oedd amddiffyn hynny a’r meini prawf y mae’r cyfyngiadau cyflymder yn seiliedig arnynt, a diolchwyd iddynt am eu hymrwymiad gan nodi fod y Cyngor wir yn lwcus i gael pobl o'r fath sy'n fodlon rhoi eu hamser i sicrhau fod y cynigion yn gywir.
Wedi'i atodi i’r adroddiad y mae matrics gyda manylion o geisiadau cyfyngiadau cyflymder Aelod lleol. Ar gyfer y rhai wedi eu cefnogi gan feini prawf yr Adran Cludiant, cynigwyd hyrwyddo'r hysbyseb ar gyfer 15 cyfyngiadau cyflymder arfaethedig ym mis Tachwedd 2018 ar wahân i Ffordd Llaneurgain, Bryn-Y-Garreg a oedd wedi cael ei blaenoriaethu i’w hysbysebu ym mis Medi 2018 oherwydd nifer cynyddol o ddamweiniau.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad gan ddiolch i’r Prif Swyddog a’i dîm am y gwaith a wnaed er diogelwch pobl ar y ffyrdd yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cynnydd a wnaed hyd yma yn cael ei nodi a bod yr heriau cyfreithiol a’r newidiadau mewn ymdriniaeth wedi hynny sydd wedi arwain at oedi yn y broses yn cael eu cydnabod; a
(b) Chefnogi’r broses gyfreithiol ddiwygiedig er mwyn symud ymlaen â'r Un Gorchymyn wedi'i Gydgrynhoi.