Mater - penderfyniadau

Sustainable Drainage (SuDS) Approval Body (SAB)

06/11/2018 - Sustainable Drainage (SuDS) Approval Body (SAB)

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy a oedd yn tynnu sylw at weithredu Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010 gyda dyddiad cychwyn o 7 Ionawr 2019. O’r dyddiad hwn byddai disgwyl i Gyngor Sir Y Fflint ymgymryd â’r rôl ‘Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy’.

 

O dan y swyddogaeth statudol mae disgwyl i Gorff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ymgymryd ag adolygiad technegol a chymeradwyo systemau rheoli d?r wyneb sydd yn gwasanaethu datblygiadau newydd i sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau Cenedlaethol gorfodol newydd. Mae’r rheiny sy’n cael eu heffeithio gan y newid yn cynnwys datblygwyr a'u dylunwyr, peirianwyr ymgynghori, cynllunwyr awdurdodau lleol, peirianwyr priffyrdd a systemau draenio, ymgyngoreion statudol a’r rheiny yn gyfrifol am reoli mannau gwyrdd.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai’r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn gorff annibynnol o fewn yr awdurdod lleol. Er bod y broses yn un ar wahân i’r swyddogaeth cais cynllunio mae diffyg integreiddio digonol rhwng y ddau yn gallu arwain at wrthdrawiad o sefyllfaoedd lle mae caniatâd wedi’i wrthod i’r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ond bod y caniatâd cynllunio wedi ei dderbyn, neu fel arall.  

           

Mae ehangder y risg o beidio â chael Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn gweithredu ar 7 Ionawr 2019 yn aros yn bennaf yn anhysbys ac yn debygol  o adael yr Awdurdod yn agored i heriau ac apeliadau cyfreithiol gan ddatblygwyr gyda goblygiadau cost gysylltiol. Felly argymhellwyd bod llythyr yn cael ei anfon at Ysgrifennydd Y Cabinet i ofyn am estyniad ar y dyddiad gweithredu.

 

Mynegodd yr aelodau eu pryderon ar y risgiau a amlinellwyd yn yr adroddiad a chefnogwyd y cais am estyniad i'r dyddiad gweithredu. Meddai’r Prif Swyddog nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i egwyddor y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ond bod angen mwy o fanylion. Ymatebodd i sylwad ar gymhwysedd a dywedodd bod ffi yn cael ei gynhyrchu ar gyfer pob cynllun.Byddai’n rhannu’r llythyr ag Ysgrifennydd Y Cabinet gydag awdurdodau lleol eraill i annog cefnogaeth cyffredinol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod cymeradwyaeth yn cael ei roi i sefydlu bod y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn ymgymryd â’r swyddogaeth statudol newydd ar ôl dechrau Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a D?r ar 7 Ionawr 2019, gyda’r awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) i gyflwyno penderfyniadau o ran ceisiadau i’w cymeradwyo wedi’u gwneud gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy;

 

(b)       Bod llythyr yn cael ei anfon at Ysgrifennydd Y Cabinet i ofyn am estyniad ar y dyddiad gweithredu ac i sicrhau adnoddau i Awdurdodau Lleol i’w galluogi nhw i gynllunio Cyrff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn llwyddiannus ac sy’n gweithredu’n effeithiol.

 

(c)        Bod y llythyr yn cael ei ddosbarthu yn eang ymysg Awdurdodau Lleol eraill i annog cefnogaeth cyffredinol ar gyfer estyniad o amser; ac

 

(d)       Bod seminar/gweithdy Aelodau a Swyddogion yn cael ei gynnal yn ogystal â’r Fforwm Datblygwr i godi ymwybyddiaeth ar y newidiadau gerllaw.