Mater - penderfyniadau
Capital Works - Procurement of Welsh Housing Quality Standard (WHQS) Kitchen & Bathroom Programme for Internal Works
06/11/2018 - Capital Works - Procurement of Welsh Housing Quality Standard (WHQS) Kitchen & Bathroom Programme for Internal Works
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad ar Waith Cyfalaf – Caffael Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer Rhaglen o Waith Mewnol ar Geginau ac Ystafelloedd Ymolchi oedd yn chwilio am gymeradwyaeth i gaffael contractwr i barhau i gyflawni’r rhaglen trwy’r fframwaith Caffael a Mwy.
Roedd eiddo â oedd yn cwrdd â’r meini prawf Methiant Derbyniol ac roedd y tîm yn bwriadu eu hymweld a’u huwchraddio i Safon Ansawdd Tai Cymru.
PENDERFYNWYD:
(a) I gymeradwyo caffael contractwr newydd i gwblhau’r rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru i wella ystafelloedd ymolchi a cheginau trwy’r fframwaith Caffael a Mwy; a
(b) Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog (Tai ac Asedau), mewn ymgynghoriad â Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Dai, i drafod a derbyn y cytundeb ar ôl ei gwblhau.