Mater - penderfyniadau

Draft Clwyd Pension Fund Accounts 2017/18

26/09/2018 - Draft Clwyd Pension Fund Accounts 2017/18

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad ynghylch Datganiad Cyfrifon drafft Cronfa Bensiynau Clwyd 2017/18, a gyflwynid bellach ar wahân i Ddatganiad Cyfrifon y Cyngor yn sgil newid yn y rheoliadau.  Roedd y Pwyllgor a’r Cyngor eisoes wedi cytuno i ddirprwyo’r awdurdod i gymeradwyo cyfrifon y Gronfa Bensiynau i Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, sef y corff mwy priodol.

 

Peter Worth a baratôdd y cyfrifon, ac fe gadarnhaodd y cyflwynwyd y cyfrifon drafft i Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd fis Mehefin, ac y gallai rannu’r sleidiau o’r cyflwyniad a ddefnyddiodd i esbonio’r cyfrifon ag Aelodau'r Pwyllgor Archwilio pe dymunent.  Rhoddodd wybodaeth am ei gefndir proffesiynol a soniodd am y newidiadau allweddol a wnaethpwyd er mwyn symleiddio’r cyfrifon yn ogystal â chynnwys mwy o wybodaeth er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r fframwaith adroddiadau ariannol.  Y materion pennaf oedd:

 

1.    Ffioedd rheoli buddsoddiadau wedi cynyddu £6 miliwn, ar sail:

o   Cynnydd yn y ffioedd yn seiliedig ar y gronfa a dalwyd i reolwyr craidd y Gronfa a oedd yn adlewyrchu'r cynnydd cyffredinol yng ngwerth y Gronfa;

o   ffioedd ychwanegol ar gyfer buddsoddiadau newydd mewn ecwiti preifat a seilwaith;

o   costau ychwanegol a gyflwynir gan reolwyr cronfeydd ar sail newid yn y rheoliadau'n arwain at fwy o dryloywder wrth godi ffioedd.

 

Nodwyd fod y ffioedd yn tueddu at ben uchaf y raddfa.  Roedd hynny’n adlewyrchu portffolio buddsoddiadau’r Gronfa ac adroddwyd ynghylch y mater i Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

2.    Gostyngodd adenillion net ar fuddsoddiadau o £318 miliwn yn 2015/16 i £87 miliwn yn 2016/17. Roedd hynny’n adlewyrchu cwymp yn y marchnadoedd ecwiti byd-eang.

3.    Roedd y sefyllfa gyllido a amcangyfrifwyd ddiwedd mis Mawrth 2018 – yn seiliedig ar IAS19 – yn dangos gwelliant mawr o gymharu â 2016.

 

Gan gyfeirio at yr esboniad o’r cynnydd mewn costau rheoli, holodd Sally Ellis sut y câi’r costau hynny eu monitro.  Dywedodd Peter Worth y bu cynnydd oherwydd nifer y buddsoddiadau bach a wnaethpwyd ar hyd y flwyddyn, a bod angen bod yn gytbwys ac ystyried y cysylltiadau rhwng costau ffioedd rheoli’r buddsoddiadau hynny, yr elw a gafwyd ohonynt a materion rheoli risg.  Yna cyfeiriodd at waith a wnaethpwyd gyda’r Gymdeithas Llywodraeth Leol i amlygu mwy ar y cysylltiadau hynny fel rhan o’r adroddiad blynyddol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd yn deall y mater yn iawn a’u bod yn herio’n gryf er mwyn bod yn fodlon ar y ffioedd rheoli a gwerth am arian.  Dywedodd fod y Gronfa’n wahanol i rai eraill o ran ei strategaeth i gydbwyso risgiau a pherfformio’n dda.  Awgrymodd y gallai’r Pwyllgor Archwilio dderbyn adroddiad a chyflwyniad yn y dyfodol i roi sicrwydd yngl?n â threfniadau llywodraethu’r Gronfa, ac fe groesawodd Sally Ellis hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.