Mater - penderfyniadau

Forward Work Programme (Social & Health Care)

13/03/2019 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried.Dywedodd y cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor ddydd Iau, 31 Ionawr 2019, er mwyn ystyried yr eitemau canlynol:

 

·         Y Cyngor Iechyd Cymunedol

·         Rhaglen Rhianta

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r rhaglen yn cael ei diweddaru i gynnwys cais y Pwyllgor bod cynrychiolwyr Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCIS) a Barnardo's yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfod i drafod adnabod gofalwyr ifanc.

 

Soniodd y Cyng. Dave Mackie am y broses ar gyfer rhyddhau cleifion traws-ffiniol yn Ysbyty Iarlles Caer a dywedodd y rhoddwyd gwybod iddo fod oedi wrth ryddhau cleifion sy’n byw yng Nghymru yn arwain at gostau ychwanegol i’r ysbyty. Eglurodd Uwch-Reolwr Gwasanaethau Integredig bod cynrychiolwyr o’r Awdurdod yn mynychu cyfarfodydd rheolaidd gydag Ysbyty Iarlles Caer a bod cleifion a dderbynnir o Sir y Fflint yn cael eu hadolygu fesul achos.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryder ynghylch y cynnydd mewn amseroedd aros yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Soniodd hefyd am lefelau staffio Ysbyty Glan Clwyd.Gofynnodd y Cadeirydd pa gyfraniad ariannol a wneir gan BIPBC i Ysbyty Iarlles Caer.

 

Yn ystod y drafodaeth cytunwyd i gynnwys eitem ar oedi wrth drosglwyddo gofal ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny; a

 

 (b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.