Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme (Social & Health Care)
12/02/2019 - Forward Work Programme (Social & Health Care)
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol er mwyn ei hystyried. Dywedodd y cynhaliwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor ddydd Iau, 13 Rhagfyr, er mwyn ystyried yr eitemau canlynol:
· Monitro Canol Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2018/19
· Diweddariad ar adnoddau Gofal Ychwanegol Fflint a Threffynnon
Cyfeiriodd y Cynghorydd David Healey at yr eitem ar Gyrhaeddiad Addysgol Plant Dan Ofal oedd wedi ei drefnu i’w ystyried gan y Pwyllgor ym mis Mai 2019 ac awgrymodd y gellid ystyried hyn yng Nghyd Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd er mwyn osgoi dyblygu gwaith. Ceisiwyd barn y Pwyllgor a chytunwyd cynnal cyfarfod ar y cyd â'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid, y dyddiad i’w drefnu.
Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill am ddiweddariad ar wneud penderfyniadau gyda phobl ifanc yn dilyn canfyddiadau’r adroddiad Bright Spots.
PENDERFYNWYD:
(a) Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.