Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
27/02/2019 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried. Cytunwyd ar y newidiadau canlynol:
· Symud adroddiad Chwarter 3 ar Gynllun y Cyngor o Fawrth i Chwefror.
· Eitemau i’w cynnwys ar y Gofrestr Asedau a Swydd Ddisgrifiadau fel y gofynnwyd gan y Cynghorydd Woolley.
O ran y mater olaf, gofynnodd y Prif Weithredwr i’r Cynghorydd Woolley egluro’r rheswm dros y ddwy eitem yn dilyn gwybodaeth fanwl a rannwyd eisoes.
Ar Gynllun y Cyngor, gofynnodd y Cynghorydd Jones am ddangosfwrdd o fesurau i ddangos perfformiad ar draws y Cyngor yng nghyfarfod Mawrth. Byddai’r mater hwn yn cael ei drafod ymhellach o dan Eitem 9 ar yr agenda.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Heesom, rhoddodd y Prif Weithredwr drosolwg byr o’r Byrddau Rhaglen a sefydlwyd i osod ac olrhain effeithlonrwydd ariannol. Gan fod y cyfarfodydd yn rhai anffurfiol, nid oedd unrhyw gofnodion wedi eu cyhoeddi er y gellid cael gwybodaeth bellach drwy ofyn i Brif Swyddogion penodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a
(b) Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.