Mater - penderfyniadau

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

10/01/2019 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried.

 

Ar broses y gyllideb, eglurodd y Prif Weithredwr y posibilrwydd y byddai cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal ym mis Ionawr oherwydd  bod Setliad Terfynol Llywodraeth Leol yn cael ei gyflwyno ar ôl cyfarfod arferol mis Rhagfyr.

 

Nododd y Cynghorydd Heesom ei bod yn aneglur sut yr oedd cyfrifoldebau portffolio diwygiedig Prif Swyddog yn cysylltu â'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol.   Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd cylch gorchwyl y Pwyllgorau yn cael eu trefnu o amgylch portffolios swyddogion a bod y swyddogion yn adrodd i sawl Pwyllgor fel bo’r angen. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a

 

(b)       Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.