Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme (Environment)
25/04/2019 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried. Dywedodd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 9 Ebrill 2019.
Cytunwyd y byddai eitem ynghylch gostegu traffig yn cael ei chynnwys ar y Rhaglen i’w hystyried yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei newid; a
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.