Mater - penderfyniadau
Repairing Potholes and Preparing the Annual Carriageway Resurfacing Programme
15/10/2018 - Repairing Potholes and Preparing the Annual Carriageway Resurfacing Programme
Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd adroddiad i amlinellu’r dull tuag o nodi diffygion a rhoi manylion ar wariant cyfalaf a lefelau buddsoddiad ynghylch y Rhwydwaith priffyrdd, cost a budd trwsio tyllau yn y ffordd dros dro a’r rhesymeg tu ôl i’r angen am waith trwsio dro ar ôl tro ar wynebau rhai ffyrdd oherwydd fod yr un tyllau yn ailymddangos yn y ffyrdd. Dywedodd fod yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion y rhaglenni arfaethedig o ailosod wynebau ffyrdd ar gyfer 2018/19.
Rhoddodd y Rheolwr Rhwydwaith Ffordd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog at lefel y buddsoddiad cyfalaf oedd ei angen i gynnal cyflwr y ffyrdd yn eu stad bresennol. Cyfeiriodd at ddyraniad yr Awdurdod o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau cynnal ffyrdd, ynghyd â dyraniad cyfalaf y Cyngor a oedd angen ei ddyrannu’n ofalus i ddod â’r budd mwyaf posibl. Dywedodd fod pob ffordd wedi eu harolygu i ddatblygu rhaglenni ailosod wyneb, a ddangoswyd yn yr atodiad i’r adroddiad.
Holodd y Cynghorydd Vicky Perfect pam mai dim ond dau safle parcio ar gyfer ceir electronig oedd yna yn y Sir. Dywedodd y Prif Swyddog fod strategaeth yn cael ei datblygu a chytunwyd y byddai eitem ar y testun hwn yn cael ei gynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w ystyried yn y dyfodol gan y Pwyllgor.
Diolchodd Aelodau i’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) a’i dîm am gynnal y rhwydwaith briffyrdd yn ystod cyfnodau o dywydd gaeafol difrifol.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.