Mater - penderfyniadau

Council Plan 2018-19

26/09/2018 - Council Plan 2018-19

Cynigiodd y Cynghorydd Mullin yr argymhellion yn yr adroddiad ar yr adolygiad blynyddol o Gynllun y Cyngor 2017-23 yr oedd ei strwythur a’i gynnwys wedi’i adnewyddu ar gyfer 2018-19. Diolchodd i’r Aelodau am eu mewnbwn yn y gweithdy diweddar ac yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Attridge.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd y Prif Weithredwr y dylid cyhoeddi’r Cynllun yn flynyddol ac roedd y cynnwys yn destun adolygiad treigl. Tynnodd sylw at yr atodiadau gan gynnwys yr ymatebion i ymgynghoriad yr Aelodau a chadarnhaodd bod y Cabinet wedi argymell cymeradwyo’r Cynllun.

 

Gwnaeth y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu gyflwyniad oedd yn cwmpasu’r canlynol:

 

·         Sut mae’r Cynllun yn cael ei ddwyn ynghyd

·         Dewis y blaenoriaethau o fewn y flwyddyn

·         Cynnwys newydd: materion cenedlaethol

·         Ymgynghori ag aelodau

·         Manteision cynllunio            

·         Cynllun y Cyngor 2018/19 ar gyfer eleni

·         Defnyddio’r Cynllun

·         Y camau nesaf

 

Yn ystod y cyflwyniad, atgoffwyd pawb am rôl Trosolwg a Chraffu mewn monitro cynnydd, ynghyd â’r Pwyllgor Archwilio mewn monitro risgiau strategol. Byddai’r nifer isel o faterion arwyddocaol parhaus o ran tanberfformiad yn 2017/18 yn destun monitro pellach drwy gynlluniau gweithredu a gytunwyd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones, er gwaethaf ceisiadau blaenorol, nid oedd y diwygiadau wedi’u hamlygu yn Rhan 2 o’r Cynllun a rhoddodd enghreifftiau o newidiadau i fesuriadau a thargedau lle dylid fod wedi rhoi eglurhad, yr oedd yn cytuno i’w rhannu’n llawn ar ôl y cyfarfod. I alluogi’r Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd statudol o ran cyhoeddi’r Cynllun, awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid newid yr argymhelliad i fabwysiadu Cynllun y Cyngor fel yr oedd, yn amodol ar adolygiad parhaus o dargedau ar gyfer gwella.

 

Roedd y Cynghorydd Jones hefyd yn awgrymu newidiadau i eiriad dau o’r effeithiau o dan y flaenoriaeth ‘Twf ac Adfywio’r Sector Busnes’ y dywedodd na ellid ei gynnwys ar yr adeg hon. O ran cyflawni ymrwymiadau drwy’r Fargen Twf Economaidd Ranbarthol (Eitem 2), cytunodd y Prif Weithredwr y dylid dileu’r ail frawddeg. O ran datblygu’r strategaeth gludiant ranbarthol a lleol (Eitem 7), cytunwyd y dylid diwygio’r pwynt bwled cyntaf i ddarllen ‘Cynnig y dylid cynnwys isadeiledd cludiant yng nghynnig y Fargen Twf Economaidd Ranbarthol’ i adlewyrchu’r nod hwn o fewn y flwyddyn.                                 

 

Dywedodd y Cynghorydd Peers y dylai’r newidiadau sydd wedi’u tracio yn Rhan 1 o’r Cynllun adlewyrchu eglurhad o ran pam y cafodd nodau eu dileu. Mewn ymateb i ymholiadau, darparodd y Prif Weithredwr eglurhad o’r derminoleg yn y ddogfen. O ran y flaenoriaeth ‘Cartrefi Modern, Effeithlon ac sydd wedi’u Haddasu’, tra bo’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yn cydnabod y cais i adfer y nod o ddarparu cymaint â phosib o gartrefi fforddiadwy drwy’r broses gynllunio, amlygodd mai ychydig iawn o reolaeth oedd gan y Cyngor a ran dylanwadu ar berfformiad. Fel y cyfryw, awgrymodd y dylid cynnwys yr amcan fel trydydd pwynt bwled o dan ‘bydd cyflawniad yn cael ei fesur drwy’, ond heb darged gosodedig. Cytunodd y Prif Weithredwr a’r Cynghorydd Bithell y dylid mesur y cynlluniau’n unigol gan nad oedd gosod targed cyffredinol yn hyfyw.         

 

O dan y thema ‘Cyngor Uchelgeisiol’, nododd y Cynghorydd Heesom ei amheuon ynghylch y manteision ar gyfer y sir gyfan yn sgil y Fargen Twf Economaidd Ranbarthol.

 

Dywedodd y Swyddog Gweithredol y byddai adroddiad manylach i egluro’r holl newidiadau’n cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y newidiadau arfaethedig a siaradodd am y posibilrwydd o gynnal ymgynghoriad ar y Cynllun ar gyfer 2019-20 yn gynharach y flwyddyn nesaf.                

 

Wrth grynhoi, dywedodd y Cynghorydd Mullin bod y broses yn dangos effeithiolrwydd Trosolwg a Chraffu a diolchodd i’r Prif Weithredwr a’i thîm am eu gwaith caled.            

 

O’i roi i’r bleidlais, cafodd yr argymhelliad gan y Cabinet a’r newidiadau arfaethedig eu cario.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Cynllun y Cyngor 2018-19 yn cael ei fabwysiadu yn ôl argymhelliad y Cabinet, yn amodol ar:

 

·         y newidiadau a gytunwyd i’r geiriad o ran y Fargen Twf Economaidd Ranbarthol a datblygu’r Strategaeth Gludiant Ranbarthol a Lleol o dan y flaenoriaeth ‘Twf ac Adfywio’r Sector Busnes’;

·         cynnwys yr amcan i ddarparu cymaint â phosib o dai fforddiadwy, gydag ymagwedd ehangach tuag at berfformiad i’w cynnwys o dan y flaenoriaeth ‘Cartrefi Modern, Effeithlon ac sydd wedi’u Haddasu’; ynghyd ag

·         ymagwedd agored tuag at adfywio targedau ar gyfer gwella ar unrhyw adeg.