Mater - penderfyniadau

Crumps Yard and Flint Landfill Solar Farms

11/10/2018 - Crumps Yard and Flint Landfill Solar Farms

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad yngl?n â Ffermydd Solar Crumps Yard a Safle Tirlenwi’r Fflint, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i osod paneli solar ffotofoltaidd ar y ddaear ar y ddau safle.  

 

Yn yr achos strategol roedd tystiolaeth fod y datblygiadau solar yn gydnaws â pholisïau a strategaethau allweddol ar leihau carbon/twf economaidd, gan gynnwys polisïau a strategaethau’r Cyngor yn ogystal â rhai rhanbarthol a chenedlaethol, a’u bod yn hwyluso ac yn cyfrannu at gyflawni nodau a thargedau allweddol. Roedd modelu ariannol wedi dangos fod y prosiectau’n hyfyw.

 

Roedd yr achosion busnes amlinellol ynghlwm wrth yr adroddiad ar ffurf atodiadau cyfrinachol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Achosion Busnes Amlinellol ar gyfer Ffermydd Solar Crumps Yard a Safle Tirlenwi’r Fflint, a dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) arwain ar gyflawni’r prosiectau hyn;

 

 (b)      Awdurdodi’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i ffurfio Bwrdd Prosiect pwrpasol i fonitro’r ddau gynllun;

 

 (c)       Awdurdodi’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i gyflwyno’r ceisiadau cynllunio angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r ddau gynllun a chaffael contractwr i wneud y gwaith; a

 

 (d)      Dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), gan ymgynghori â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro'r Cyngor, sicrhau cymorth allanol â materion cyfreithiol/technegol/cynllunio fel y bo'r gofyn, a neilltuo cyllideb ar gyfer hynny.