Mater - penderfyniadau
Year-end Council Plan 2017/18 Monitoring Report
10/07/2018 - Year-end Council Plan 2017/18 Monitoring Report
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2017/18. Eglurodd fod yr adroddiad yn monitro cynnydd blaenoriaethau Cynllun y Cyngor, sef ‘Cyngor Cefnogol’ a ‘Cyngor Uchelgeisiol’, y ddau oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.
Cafwyd gwybodaeth gefndir gan y Prif Swyddog a dywedodd fod adroddiad monitro Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol, gydag 81% o’r gweithgareddau’n cael eu hasesu fel rhai oedd yn gwneud cynnydd da, a 69% yn debygol y gyrraedd y deilliant a ddymunir. Gwelwyd cynnydd da yn y dangosyddion perfformiad gydag 84% yn cyrraedd neu’n agos at darged y cyfnod. Roedd risgiau’n cael eu rheoli’n llwyddiannus hefyd gyda’r rhan fwyaf yn cael eu hasesu fel rhai canolig (67%) neu fân (10%).
Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton a oedd effaith Credyd Cynhwysol a’r oedi mewn taliadau i denantiaid yn cael effaith negyddol ar ôl-ddyledion rhent. Gofynnodd hefyd ai cynnydd yn y galw am Grant Cyfleusterau i’r Anabl (DFG) oedd achos y dangosydd perfformiad a fethwyd. Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau ei bod yn rhy gynnar ar hyn o bryd i gadarnhau a fyddai’r oedi mewn taliadau yn cael effaith negyddol ar ôl-ddyledion rhent. Roedd y swyddogion yn dal i fod yn rhagweithiol yn cysylltu â thenantiaid yn ddigon buan i roi’r gefnogaeth angenrheidiol. Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai adroddiad ar y Grantiau hyn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.
Gofynnodd y Cynghorydd George Hardcastle a ellid rhoi adroddiad diweddar ar ôl-ddyledion rhent a’r defnydd o lety gwely a brecwast i’r Pwyllgor yn un o’r cyfarfodydd nesaf. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai fod adroddiad ar ôl-ddyledion rhent i gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio ac y byddai hefyd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor hwn. Dywedodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid fod adroddiad ar Ddigartrefedd, a fyddai’n cynnwys manylion am y defnydd o lety gwely a brecwast, yn cael ei roi i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.
Yn dilyn sylwadau a wnaed am ôl-ddyledion rhent, dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai fod y lefelau presennol yn ormodol a bod angen dull dim goddefgarwch i’r tenantiaid hynny a oedd yn gallu, ond yn gwrthod talu eu rhent. Soniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) am y tenantiaid a oedd angen cymorth a chefnogaeth a dywedodd y byddai’r rhain yn dal i gael eu rhoi ond y byddai’r Cyngor yn mynd ati dros y 12 mis nesaf i daclo tenantiaid oedd yn gallu, ond yn gwrthod talu eu rhent.
Diolchodd yr Aelodau i’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai am y dull a amlinellwyd ganddynt o ddelio ag ôl-ddyledion rhent.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.