Mater - penderfyniadau

Safeguarding and Child Protection

29/10/2018 - Safeguarding of Children and Child Protection

Cyflwynodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth am ddarpariaeth Diogelu Plant a’r broses Amddiffyn Plant o fewn ffiniau’r Sir.  Eglurodd bod yr adroddiad yn darparu gwybodaeth allweddol am ystadegau a pherfformiad mewn perthynas â phlant dan fygythiad, y mae gan yr Awdurdod gyfrifoldebau diogelu sylweddol amdanynt. 

 

                        Cyfeiriodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu at y prif ystyriaethau, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, o ran Diogelu Plant, Addysg ac Ieuenctid a blaenoriaethau'r Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer diogelu plant, a diogelu corfforaethol. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones a oedd y targedau ar gyfer adolygu plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn cael eu cyrraedd, ac ymatebodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu drwy egluro bod yr Awdurdod wedi cyflawni ei holl dargedau ar gyfer adolygu plant ar y gofrestr yn dda, yn unol â Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes a oedd gwybodaeth ar gael ar oedran y plant oedd ar y rhestr amddiffyn plant, a hefyd a oedd yna unrhyw gydberthynas rhwng yr oedrannau a’r categorïau risg.  Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu bod y data am oedran y plant ar gael ac y gellid ei rhannu.  Dywedodd hefyd y gellid dadansoddi’r data i weld a oedd yna unrhyw gydberthynas rhwng oedrannau’r plant a’r categorïau risg.

 

            Mynegodd y Cynghorydd Hilary McGuill bryderon am ddiogelu plant o amgylch eiddo’r ysgol ar ddiwedd y diwrnod ysgol.  Mewn ymateb, cyfeiriodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu at waith y Panel Diogelu Corfforaethol, gan nodi bod gan y Gwasanaethau Addysg a’r Heddlu gynrychiolwyr ar y Panel ac esbonio’r gwaith a wneir mewn partneriaeth o ran meysydd sydd o bryder i bawb.  Awgrymodd y Cynghorydd McGuill y dylid gofyn i’r Heddlu fonitro ‘mannau problemus’ lle mae pryder, er mwyn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed ac i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.   

 

Gwnaeth y Cynghorydd Patrick Heesom sylw am y diffyg gwasanaethau ieuenctid ar gyfer pobl ifanc yn Sir y Fflint, gan ddweud fod hynny wedi creu angen cymdeithasol ‘enbyd’.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r wybodaeth mewn perthynas â Diogelu Plant ac Amddiffyn Plant ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018; a

 

(b)       Rhoi sylw dyledus i’r gwaith a wneir mewn partneriaeth ar draws y meysydd portffolio i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed.