Mater - penderfyniadau
Welsh Housing Quality Standard (WHQS) Environmental Programme
10/07/2018 - Welsh Housing Quality Standard (WHQS) Environmental Programme
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Tai ac Asedau). Roedd yn canolbwyntio ar ddatblygiad y Rhaglen Amgylcheddol fel rhan o Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS).
Wrth ddatblygu ei raglen waith ar gyfer yr WHQS i gyd, mae’r Cyngor wedi rhannu’r sir yn chwe ardal ddaearyddol fwy neu lai yr un faint, gyda phob un yn cael rhaglen waith ym mhob blwyddyn ariannol, fel y dangosir yn Atodiad A. Datblygwyd rhaglenni gan ddefnyddio gwybodaeth oedd yn dod o arolygon cyflwr stoc, ond hefyd drwy ddefnyddio adborth gan denantiaid, ac Aelodau a swyddogion ar lawr gwlad. Roedd y data arolwg cyflwr yn cael ei adolygu’n rheolaidd a’i addasu i adlewyrchu cyflwr gwell yr eiddo yn dilyn adnewyddu.
Tynnwyd sylw’r Pwyllgor gan y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) i Atodiad B yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion y matrics a ddefnyddir gan swyddogion wrth asesu cynlluniau ar gyfer gwaith amgylcheddol. Yn seiliedig ar y meini prawf hyn, dangoswyd y Rhaglen Amgylcheddol arfaethedig yn Atodiad C.
Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai i’r Pwyllgor adolygu’r rhestr a’r cyngor os oeddent yn teimlo’i bod yn ystyried y gofynion yn eu hardaloedd nhw yn ddigonol. Yn dilyn y cyfarfod, byddai copi o’r rhaglen arfaethedig yn cael ei anfon i bob Aelod fel y gellid cysylltu â nhw ar y cynigion.
Gwnaeth y Cynghorydd Paul Shotton sylw am nifer y garejis ar draws y Sir a oedd angen eu hadnewyddu a’r anawsterau gyda pharcio yn ei ward ei hun. Canmolodd y gwaith a oedd yn cael ei wneud fel rhan o’r WHQS a gofynnod a oedd gan y Cyngor yswiriant atebolrwydd pe bai difrod yn cael ei wneud i eiddo cyfagos yn ystod y gwaith adnewyddu. Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau), pe bai difrod yn cael ei wneud i eiddo cyfagos, byddai’r atebolrwydd yn cael ei warantu oherwydd byddai hyn wedi cael ei gynnwys o fewn y broses dendro.
Cododd y Cynghorydd Dennis Hutchinson bryderon ar ran tenant a oedd yn gorfod talu am ddefnyddio garej tra’r oedd yn cael ei hadnewyddu. Cytunodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) siarad â’r Cynghorydd Hutchinson wedi’r cyfarfod er mwyn rhoi ateb priodol iddo.
Yn ôl y Cynghorydd Rosetta Dolphin, nid oedd y rhan fwyaf o garejis ar draws y Sir yn addas i’r diben mwyach, o ystyried maint cerbydau modern a gofynnodd a fyddai amserlen newydd yn dangos pryd byddai gwaith yn cael ei gwblhau ac ym mha wardiau, yn cael ei ddarparu i Aelodau. Eglurodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai fod ystyriaeth wedi cael ei rhoi, fel rhan o’r adolygiad garejis, i’r defnydd gorau o bob safle os nad oedd modd adnewyddu’r strwythurau oedd yno ar hyn o bryd.
Holodd y Cynghorydd Ray Hughes a ellid ystyried gwella’r lle parcio yng Nghoed-llai. Byddai hynny’n helpu i symud cerbydau oddi ar y ffordd a gwella’r gwasanaeth bws. Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai i’r Cynghorydd Hughes roi manylion i swyddogion wedi’r cyfarfod.
Gofynnodd y Cynghorydd Ted Palmer am eglurhad ar y termau gwedd 2 a gwedd 3 fel y gwelir yn Atodiad C yr adroddiad. Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y byddai’n rhoi manylion pellach i’r Cynghorydd Palmer am y termau ar ôl y cyfarfod.
Gofynnodd y Cynghorydd George Hardcastle a oedd ystyriaeth wedi cael ei rhoi i newid y lleiniau gwair yn llefydd parcio ceir. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai fod hyn wedi cael ei ystyried ond nad oedd o blaid cael gwared ar y mannau gwyrdd i gyd. Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) fod trafodaethau wedi cael eu cynnal ynghylch wyneb cadarn y gellid ei ddefnyddio i barcio ceir ond oedd yn edrych fel man gwyrdd. Gellid cynnal a chadw hwn drwy dorri trwy bilen arbennig heb achosi unrhyw niwed i’r wyneb.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor ar y matrics penderfynu;
(b) Nodi’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor ar y Rhestr Waith, ynghylch a oedd yn gyflawn ac yn addas; a
(c) Bod copi o’r Rhestr Waith newydd i’w dosbarthu i’r Aelodau i gyd.