Mater - penderfyniadau

Audit Committee Self-Assessment

18/03/2019 - Audit Committee Self-Assessment

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol yr adroddiadau ar ganlyniadau’r hunanasesiad yr ymgymerwyd ag ef gan y Pwyllgor ym Medi 2018 yn ystod gweithdy hwyluso. Roedd canlyniadau cyffredinol yr hunanasesiad yn gadarnhaol a byddent yn cyfrannu at baratoi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2018/19. Adroddwyd y gwnaed cynnydd da ar y cynllun gweithredu.

 

Mynegodd y Cynghorydd Johnson ei werthfawrogiad i swyddogion am y gweithdy cadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r canlyniadau a’r cynnydd ar y camau gweithredu.