Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
26/07/2018 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w ystyried ac awgrymodd efallai yr hoffai’r Pwyllgor ystyried ail-alinio’r ddogfen i sicrhau y bydd adroddiadau yn cael eu derbyn ar yr adeg briodol.
Oherwydd y nifer eitemau i'w trafod yng nghyfarfod mis Medi, ac i roi digon o amser ar gyfer y rhai sydd angen eu cymeradwyo o fewn terfyn amser statudol‘ cytunwyd y dylid symud yr eitem ar Waredu Asedau a Derbyniadau Cyfalaf a’r Adroddiad Blynyddol ar Archwiliadau Allanol i gyfarfod mis Tachwedd, neu hwyrach. Cytunodd yr Aelodau hefyd i beidio derbyn yr Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol ym mis Medi, a’i gynnwys yn yr adroddiad ar gyfer cyfarfod mis Tachwedd.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid derbyn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol fel y’i diwygiwyd; ac
(b) Awdurdodi’r Rheolwr Archwilio Mewnol, mewn ymgynghoriad gyda Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, wrth i’r angen godi.