Mater - penderfyniadau

Draft Welsh Language Promotion Strategy

12/07/2018 - Draft Welsh Language Promotion Strategy

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth ar gyfer Strategaeth Bum Mlynedd Ddrafft i Hyrwyddo’r Gymraeg a fydd yn destun ymgynghoriad ffurfiol.

 

            Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndirol a dywedodd fod Sir y Fflint yn awdurdod eithriadol yn nhermau ei ymrwymiad i’r Gymraeg. Cyfeiriodd at y prif ystyriaethau fel y’u nodwyd yn yr adroddiad gan wahodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol i ddarparu rhagor o wybodaeth. Eglurodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y byddai’r Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg hefyd yn cyfrannu at Gynllun Llesiant y Cyngor, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol 2015, ynghyd â nod Llywodraeth Cymru i ddarparu ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’. Cyfeiriodd at y broses ymgynghori a fyddai’n cael ei chynnal ym Mai 2018, ac eglurodd y bydd y Strategaeth derfynol yn cael ei chyflwyno i’r Cabinet yng Ngorffennaf 2018 i’w chymeradwyo cyn ei chyhoeddi a’i gweithredu.        

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill at y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhwng 5-20 mlwydd oed, fel y nodir yn nhabl 2, ar dudalen 62 o’r adroddiad. Awgrymodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y gall hyn fod oherwydd nad oedd rhai pobl ifanc yn parhau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ar ôl gadael ysgol.                    

 

Siaradodd y Cynghorydd Billy Mullin am Strategaeth Llywodraeth Cymru i gyflawni un filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050, a chyfeiriodd at y gwaith ardderchog a wnaed gan ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Sir y Fflint.

 

Roedd y Cadeirydd yn dymuno cael eglurhad am y data a ddarparwyd yn nhabl 3, tudalen 63 yn yr adroddiad. Eglurodd y Prif Weithredwr y cafwyd y wybodaeth o ddata’r cyfrifiad a chytunodd i adolygu sut yr oedd cwestiynau’r cyfrifiad wedi’u trefnu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at nod y Strategaeth ddrafft. Gofynnodd am ddadansoddiad o ganran yr ysgolion cyfrwng Cymraeg, yr ysgolion cynradd, ac aelodau’r cyhoedd. Cyfeiriodd hefyd at nifer y disgyblion ysgol gynradd sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, a gofynnodd p’un a fyddai hyn yn cyflawni’r targed dros y pum mlynedd nesaf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley at gyfleoedd addysgol, cyfyngiadau amser a’r gobeithion i’r dyfodol ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a oedd cyllid ar gael i gefnogi mentrau yn y gymuned i ddatblygu sgiliau Cymraeg. Eglurodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol nad oedd yr Awdurdod yn gallu ariannu prosiectau cymunedol o’r fath o gronfeydd y Cyngor. Fodd bynnag, gall fod cyfle i ymgeisio am grant o gronfa’r Gist Gymunedol. Dywedodd y Prif Weithredwr hefyd bod cyfle i gynghorau lleol ‘drefnu eu hunain’ i gefnogi menter gymdeithasol leol.                                       

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Cunningham at yr angen i hybu’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob ysgol yn Sir y Fflint.                                                         

           

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Strategaeth Bum Mlynedd Ddrafft i Hyrwyddo’r Gymraeg.