Mater - penderfyniadau
Corporate Governance
09/05/2018 - Annual Review of the Code of Corporate Governance
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y Cod Llywodraethu Corfforaethol diwygiedig i’w fabwysiadu fel rhan o Gyfansoddiad y Cyngor, yn dilyn ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Archwilio.
Defnyddiwyd egwyddorion diwygiedig y Cod mewn hunanasesiadau a fyddai’n ffurfio sail y Datganiad Llywodraethu Blynyddol i fynd gyda’r Datganiad o Gyfrifon.
Dywedodd y Cynghorydd Peers y dylai paragraff 1.01 o’r adroddiad fod wedi nodi’r broses ymgynghori lawn. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith nad oedd rhai o’r dolenni yn adran A o’r Cod yn gweithio ac na ellid dod o hyd i fanylion cyswllt Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar wefan y Cyngor. Cytunodd y Prif Swyddog i fynd ar drywydd hyn.
PENDERFYNWYD:
Mabwysiadu’r Cod Llywodraethu Corfforaethol diweddaredig fel rhan o Gyfansoddiad y Cyngor.