Mater - penderfyniadau
Wales Audit Office (WAO) Audit Plan 2018
18/06/2018 - Cynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru 2018
Cyflwynodd Mr Richard Harries Gynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) 2018 a oedd yn nodi’r trefniadau a’r cyfrifoldebau ar gyfer gwaith archwilio arfaethedig i’r Cyngor a Chronfa Bensiynau Clwyd.
Wrth grynhoi pwyntiau allweddol Cynllun y Cyngor, cyfeiriodd at y drafodaeth gadarnhaol rhwng swyddogion y Cyngor a SAC ar y broses gyfrifon, gan gynnwys paratoadau i fodloni terfynau amser statudol cynt. Roedd y risgiau archwilio ariannol allweddol a nodwyd ar gam cynllunio'r archwiliad yn gyffredinol yn bennaf, ag ond ychydig o risgiau penodol i'r Cyngor. Roedd gwaith archwilio perfformiad yn cynnwys cydbwysedd rhwng gwaith cenedlaethol ar draws Cymru a gwaith perfformio lleol. Roedd gostyngiad bach yn y ffi a amcangyfrifwyd ar gyfer gwaith archwilio’r cyfrifon yn adlewyrchu’r gwelliannau a wnaed i'r broses. Roedd gostyngiad yn y ffi am waith ardystio grantiau o ganlyniad i drefniadau symleiddio a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, a fyddai'n arwain at ostyngiad sylweddol o ran ardystio hawliadau am grantiau yn y modd arferol.
Croesawodd y Prif Weithredwr adborth cadarnhaol ar archwiliad ariannol cyfrifon 2016/17 ac, yn enwedig, cydnabyddiaeth i rôl y Gr?p Llywodraethu Cyfrifon. Dywedodd y gallai newidiadau i driniaeth gyfrifeg Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru, pan fyddai’n dod yn weithredol yn 2019, arwain at waith ychwanegol am gyfnod dros dro. Er bod y farn archwilio ar gadernid systemau wedi’i chydnabod, roedd cynaliadwyedd sefyllfa’r gyllideb yn fater arall. Byddai newidiadau posib’ i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn gofyn am gytundeb ar y cyd ar ddefnyddio unrhyw adnoddau a fyddai'n cael eu rhyddhau gan SAC yn y ffordd orau.
Ar y Cynllun ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd, dywedodd Mr Harries nad oedd nifer o risgiau'r archwiliad ariannol yn benodol i Sir y Fflint, gan gynnwys newidiadau rheoleiddio, a oedd yn golygu na fyddai cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd yn cael ei chynnwys yn rhan o Ddatganiad Cyfrifon y Cyngor mwyach.
Eglurodd y Prif Weithredwr bod trafodaethau ar fynd i gytuno ar rôl Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd wrth gymeradwyo ei gyfrifon. Er y gallai’r Pwyllgor Archwilio barhau i arolygu, byddai’n cadw’r cyfrifoldeb dros gymeradwyo’r cyfrifon craidd.
PENDERFYNWYD:
Nodi adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru.