Mater - penderfyniadau

Induction Process Report

09/05/2018 - Induction Process Report

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn rhoi trosolwg o’r rhaglen gyflwyno ar gyfer Aelodau yn dilyn etholiadau Cyngor Sir Mai 2017.

 

Adroddwyd bod dros hanner yr Aelodau newydd wedi mynychu’r hyfforddiant ar destunau generig a bod rhai Aelodau a oedd yn dychwelyd wedi mynychu hefyd. Yn ogystal, rhoddwyd ffigyrau mynychu ar gyfer hyfforddiant ar sgiliau penodol, gan gynnwys hyfforddiant gorfodol ar gyfer pwyllgorau penodol.

 

Roedd y Cynghorydd Shotton yn falch o gael nodi rhan nifer o Aelodau oedd yn dychwelyd yn y sesiynau hyfforddi o ran helpu i roi cyngor a chymorth i’r rheiny a oedd newydd eu hethol.

 

Roedd y Cynghorydd Hughes yn cymeradwyo’r swyddogion am y rhaglen hyfforddi ardderchog a siaradodd am yr angen am hyfforddiant gorfodol ar gyfer Aelodau newydd. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd nad oedd hyn yn opsiwn. Mewn cydnabyddiaeth o amryw ymrwymiadau Aelodau, gwnaed gwaith dilynol gyda rhai unigolion nad oeddynt wedi gallu mynychu’r sesiynau.

 

Fel y gofynnwyd gan y Cynghorydd Healey, byddai nodyn cyfarwyddyd yn cael ei gylchredeg i Aelodau yn rhoi manylion cysylltu ar gyfer cyrff cyhoeddus eraill fel Heddlu Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac ati.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hughes y dylid darparu hyfforddiant ychwanegol i Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio i’w cynorthwyo yn y rôl gymhleth honno. Dywedodd y Cynghorydd Dunbar ei fod yn cytuno. Nodwyd fod y sesiwn hyfforddi ‘Cynllunio ar gyfer Aelodau Nad Ydynt yn Aelodau Cynllunio’ yn helpu Aelodau mewn perthynas â cheisiadau yn eu wardiau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peers y gallai’r Pwyllgor Cynllunio ymddangos yn frawychus i Aelodau newydd, er eu bod wedi derbyn hyfforddiant. Fel datrysiad posibl, cynigiodd y dylid gofyn i’r Gr?p Strategaeth Cynllunio ystyried p’un a ddylai aelodau newydd o’r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol fynychu eu cyfarfodydd cyntaf fel sylwedyddion i’w helpu i baratoi i gyfranogi mewn cyfarfodydd pellach.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Hughes a awgrymodd y dylid rhoi ystyriaeth hefyd i roi opsiwn i Aelodau newydd fynd gyda Swyddogion Cynllunio wrth ymweld â safleoedd i roi gwell dealltwriaeth iddynt o’r broses gynllunio. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i fynd ar drywydd hyn.     

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Perfect, eglurwyd bod cylch gwaith yr uwch swyddogion wedi ffurfio rhan o’r sesiwn hyfforddiant ‘Cyflwyniad i’r Cyngor’. Rhoddwyd eglurhad byr o’r newidiadau i gyfrifoldebau Aelodau o’r Cabinet a gadarnhawyd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad cynnydd ar y broses gyflwyno;                    

 

(b)       Rhoi ystyriaeth i Aelodau newydd yn mynychu’r Pwyllgor Cynllunio fel sylwedyddion yn hytrach na chyfranogwyr a mynd gyda swyddogion ar safleoedd i gael goleuni pellach ar eu gwaith.