Mater - penderfyniadau

2018/19 Council Fund Budget – Stage Two Proposals for the School Funding Formula Level

27/06/2018 - 2018/19 Council Fund Budget – Stage Two Proposals for the School Funding Formula Level

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr y cynigion ail gam ar gyfer lefel fformiwla ariannu ysgolion ar gyfer Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2018/19.    Amlinellodd yr adroddiad y risgiau a lleihadau cynigion o’r fath ar ddarparu gwasanaethau addysg o ansawdd yn Sir y Fflint a darparu gwybodaeth gyd-destunol ar y lefel bresennol o falansau ysgol, lleihadau mewn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru (LlC) a rhagolwg o’r pwysau cost chwyddiannol yn wynebu ysgolion.

 

            Cymeradwyodd y Cyngor yn ei gyfarfod mis Rhagfyr yr ail gam o'r gyllideb i Gyllideb Ariannu'r Cyngor 2018/19 yn unol â nifer o gynigion penodol yn cael eu cyfeirio at bwyllgor Trosolwg a Chraffu i'w harchwilio yn fanwl cyn ystyriaeth bellach gan y Cabinet ac yna'r Cyngor.  Un o’r cynigion cyllideb benodol oedd bod ysgolion ond yn derbyn setliad ‘arian gwastad’ ar gyfer 2018/19 gan greu effeithiolrwydd o £1.143m a bod addasiadau i gyllideb yr ysgol yn cael eu gwneud yn seiliedig ar ddemograffeg disgybl gan arbed £0.288m pellach.

 

            Ychwanegodd y Prif Weithredwr, er yr heriau o gyni cyllideb dros gyfnod estynedig, bod y Cyngor wedi llwyddo i ddarparu graddfa fechan o amddiffyniad ariannol o gyllid dirprwyedig i ysgolion ac wedi cwrdd â chodiadau canran amddiffyn Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion.  Mae sefyllfa ariannol heriol lle mae angen i'r Cyngor ystyried gosod cyllideb 'arian gwastad' i ysgolion wedi cael ei greu gan bolisïau wedi'u gosod yn genedlaethol a oedd heb eu  hariannu h.y. dyfarniadau cyflog i athrawon a staff cefnogi a chynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol cyflogwyr. 

                       

            Adroddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod Ysgolion wedi bod yn rhagweithiol mewn addasu i leihau lefelau cyllido ac wedi adolygu eu cyllidebau yn llym i amsugno pwysau wrth ganolbwyntio ar gynnal y gwaith o ddarparu cwricwlwm o ansawdd a gwella canlyniadau dysgwyr.   Trafodaethau agored a gonest yn cael eu cynnal gydag Ysgolion gyda rhai yn cael eu dwyn i’r amlwg ar gyfer heriau ariannol yn fwy nag eraill.   Risg pellach i gyllidebau ysgol oedd y lleihad mewn grantiau penodol ym Mhortffolio Addysg ac Ieuenctid fel y manylir yn yr adroddiad, gydag ysgolion yn dibynnu arnynt i ddarparu gwasanaethau eu hunain neu lle roeddent yn derbyn gwasanaethau cefnogi yn uniongyrchol gan y Cyngor.    

 

            Gwahoddodd y Cadeirydd Mrs. Rachel Molyneux, Richard Collett, Mrs. Ann Peers a Mr. John Wier i gynrychioli'r Ffederasiwn Penaethiaid Cynradd ac Uwchradd i amlinellu i’r pwyllgor eu sylwadau ar y cynigion cyllideb bresennol ar gyfer ysgolion.   Mae copi o’r sylwadau a wnaed ynghlwm ag Atodiadau 1 a 2 o’r cofnodion.

 

            Dyma Arweinydd y Cyngor yn diolch i’r Penaethiaid am fynychu.  Dywedodd am yr heriau parhaus o gyni cyllidol a’r heriau ariannol posib sy’n wynebu’r Cyngor ym mlynyddoedd ariannol y dyfodol pe bai’r rhaglen cyni yn parhau.  Soniodd am y ceisiadau penodol wedi eu gwneud i Lywodraeth Cymru (LlC) am gyllid ychwanegol drwy gynnydd yn y Cap Ffi Gofal Cartref, adennill 50% o’r Ardoll Treth Prentis, a gwarant o gyfraniadau ariannol yn y dyfodol trwy’r Gronfa Gofal Canolraddol (CGC).  Cefnogodd i’r achos gael ei roi o flaen Penaethiaid ysgol a'r angen i barhau i lobio Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gael cyllid ychwanegol i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen.

 

            Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg y Penaethiaid Ysgol am eu presenoldeb a dywedodd am y sefyllfa anodd sy'n wynebu Cynghorwyr sydd eisiau gweld parhad i wella gwasanaethau i breswylwyr yn Sir y Fflint ac i beidio â gweld lleihad parhaus mewn cyllid.  Dywedodd bod cyfathrebu rheolaidd wedi bod gyda Phenaethiaid ar yr heriau yn wynebu’r Cyngor mewn gosod cyllideb gytbwys a’u bod wedi mynegi eu parodrwydd i fod yn rhagweithiol trwy eu sefydliadau proffesiynol ac i apelio yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru i ddangos yr heriau go iawn sy'n eu hwynebu er mwyn cynnal darpariaeth addysg gyda chyllidebau llai. 

 

            Dyma’r Cynghorydd Kevin Hughes yn diolch i’r Penaethiaid ysgol am eu presenoldeb a dywedodd bod y Cyngor yn ddyledus iddyn nhw am eu holl waith caled yn yr ysgolion ar draws Sir y Fflint.   Dywedodd ers dod yn Gynghorydd bod cyfyngiadau cyllideb wedi bod yn bryder parhaus a'i fod yn cefnogi Penaethiaid ysgol, athrawon, llywodraethwyr ysgol a disgyblion trwy siarad gyda’u AS ac AC er mwyn tynnu sylw at eu pryderon yngl?n â lleihau cyllid i'r Cyngor.  Roedd nifer o Gynghorwyr yn cefnogi’r sylwadau ac yn cefnogi’r angen i barhau i lobio Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

 

            Diolchodd Mrs. Rebecca Stark i'r Arweinydd, Aelodau Cabinet a swyddogion am gyflwyno adroddiad mor anodd ac am fod yn agored a chlir gyda'r Pwyllgor ar heriau ariannol wrth symud ymlaen. Mynegodd bryderon yngl?n â’r effaith y mae toriadau parhaus mewn cyllid yn ei gael ar athrawon a phlant a dywedodd bod angen ymateb ar y cyd i’r heriau a wynebir.

 

            Meddai Mr. David Hytch am yr ymdrech wych gan yr holl staff dysgu ar y gwelliannau mewn perfformiad o un flwyddyn i'r llall tra bod y cyllidebau yn parhau i gael eu lleihau flwyddyn ar ôl y llall.   Mynegodd bryderon am les staff dysgu o ystyried y cynnydd parhaus mewn llwyth gwaith o ganlyniad i leihau cyllid a gofynnodd a byddai modd monitro hynny wrth symud ymlaen.   Dywedodd am y posibilrwydd o leihau'r diwrnod dysgu ysgol fel y cynigwyd mewn rhannau o Loegr ond yn dweud y byddai hynny’n gallu achosi problemau gofal plant a phwysau ariannol ychwanegol ar rieni a gobeithio y byddai modd gwrthsefyll hynny.  Dywedodd hefyd bod y gostyngiadau parhaus yn y gyllideb wedi bod yn ‘bwynt tyngedfennol’ a'i fod yn cefnogi’r lobio parhaus o’r Llywodraethau.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Tudor Jones ei fod yn cefnogi’r sylwadau a wnaed a mynegodd bryderon am yr effaith y mae lleihau cyllidebau yn ei gael ar ysgolion bach gwledig a’r pryderon yngl?n â’r dyfodol o gau ysgolion. Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie er ei fod yn deall y sefyllfa anodd sy’n wynebu swyddogion byddai’r setliad ‘arian gwastad’ arfaethedig ond yn paratoi plant i fethu yn y dyfodol a gofynnodd i swyddogion gydweithio gyda Phenaethiaid Ysgol i weld os gellir dod o hyd i ateb gwell.  Mynegodd y Cynghorydd David Williams bryderon am y lefel o gymorth a fyddai ar gael i blant gydag anghenion ychwanegol.             

 

            Mewn ymateb i’r sylwadau a phryderon a godwyd, dywedodd y Prif Weithredwr am y dewisiadau cyfyngedig sydd ar gael i ariannu’r bwlch yn y gyllideb.  Dywedodd mai Sir y Fflint sydd efo'r strwythur rheoli lleiaf yng Nghymru a bod yr holl wasanaethau wedi cael eu trawsnewid i gwrdd â'r pwysau cyllido mewn blynyddoedd a fu.  Mae effeithlonrwydd posib gan GwE wedi cael ei drafod ond mae gan y Cyngor ymrwymiad cytundebol i’r gwasanaeth hynny.  Roedd tystiolaeth gynyddol bod Sir y Fflint yn Gyngor sy’n derbyn cyfran isel o gyllid fesul pen yn y ffordd y mae cyllid yn cael ei ddyrannu.  Mae ysgolion yn Sir y Fflint wedi eu hariannu ar lefelau is o’u cymharu a nifer o awdurdodau Cymreig eraill a bod y cyllid ‘fesul disgybl’ yn is na chyfartaledd Cymru.  Y prif ddewisiadau ar gael i'r Cyngor wrth symud ymlaen oedd i barhau i ddarparu dadl â ffocws iddo sy'n darparu tystiolaeth i Lywodraeth Cymru er mwyn gofyn am gymorth ariannol.      

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod y gwaith sydd wedi'i wneud yn y blynyddoedd diwethaf i amddiffyn cyllidebau ysgolion;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod bod y setliad 'arian gwastad’ yn peri    risgiau i ysgolion a’u gallu i gyflwyno'r cwricwlwm yn effeithiol; 

 

(c)        Y dylai adnoddau ychwanegol fod ar gael, mae’r Pwyllgor yn           argymell bod y Cyngor yn rhoi codiad i gyllidebau ysgolion os o gwbl        yn bosibl; a

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn annog yr holl bleidiau i ymgyrchu mor egnïol â phosib gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i weld cynnydd mewn cyllid cwantwm.