Mater - penderfyniadau

Betsi Cadwaladr University Health Board

07/12/2018 - Betsi Cadwaladr University Health Board

Croesawodd y Cadeirydd Rob Smith, Cyfarwyddwr Ardal y Dwyrain, Lesley Singleton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Jane Bryant, Cyfarwyddwr Nyrsys Ardal, a Dr Gareth Bowdler, Cyfarwyddwr Meddygol Ardal y Dwyrain, i’r cyfarfod. 

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Swyddogion i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol yn fras. Soniodd Jane Bryant am yr ystod o wasanaethau nyrsio a chymunedol a oedd ar gael i gefnogi pobl a oedd yn dymuno cael gofal gartref. Bu iddi drafod y gefnogaeth a roddwyd i gleifion a oedd wedi’u rhyddhau o’r ysbyty i’w galluogi i gael gofal a thriniaeth gartref ac aros yn eu cymuned.

 

Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau Gofal Sylfaenol gan Dr Gareth Bowdler ac fe soniodd am yr amodau a’r telerau gwell i gyflogi meddygon teulu.  Disgwylid iddynt gynorthwyo wrth gynnig gwaith i feddygon yn Sir y Fflint i fynd i’r afael â’r prinder wrth recriwtio.  

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am eu diweddariad a gwahoddodd yr Aelodau i ofyn cwestiynau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Rita Johnson at gau Ysbyty’r Fflint a cholli gwelyau a gofynnodd a oedd Ysbyty Cymunedol Treffynnon yn gallu ymdopi â'r galw. Cadarnhaodd Jane Bryant fod yr ysbyty yn gymharol llawn, ond roedd y Metron yn gweithio gydag Ysbyty Glan Clwyd a meddygon teulu i sicrhau bod gwelyau yn Ysbyty Cymunedol Treffynnon yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau.  Roedd hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar drin cleifion gartref o fewn oriau gwaith a thu hwnt fel maes allweddol i'w ddatblygu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill at y staff mewn Unedau Mân Anafiadau. Teimlai ar rai achlysuron nad oedd y staff yn gymwys/hyderus i roi triniaethau e.e. pwythau neu roi diferwyr mewn gwythiennau, a oedd yn golygu bod angen i gleifion ymweld ag Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn yr ysbyty. Awgrymodd y Cynghorydd McGuill y gallai staff nyrsio symud rhwng prif Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac Unedau Mân Anafiadau i gynnal sgiliau. Awgrymodd y Cynghorydd McGuill hefyd y gallai cleifion fod yn awyddus i beidio â chael eu rhyddhau o’r ysbyty gan na fyddent o fewn cyrraedd profion diagnostig yn syth, fel fyddai cleifion yn yr ysbyty.

 

Cytunodd Dr Gareth Bowdler fod angen sicrhau bod gan staff nyrsio mewn Unedau Mân Anafiadau y gallu a’r sgiliau cywir ac roedd hwn yn faes datblygu a oedd yn brif flaenoriaeth. Cyfeiriodd Rob Smith at yr adolygiad o ddarpariaeth gofal brys a oedd yn cael ei gynnal ar draws Sir y Fflint a Wrecsam, a edrychai ar welliannau gan gynnwys cysylltiadau mwy clos rhwng meddygon teulu, Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac Unedau Mân Anafiadau. Roedd integreiddio a symud staff rhwng gofal sylfaenol ac Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac Unedau Mân Anafiadau'n cael ei ystyried. Cydnabu Dr Bowdler fod lle i wella wrth gynllunio i ryddhau cleifion ac un o’r cysyniadau allweddol oedd y dylid dechrau cynllunio i ryddhau claf cyn gynted ag y mae wedi'i dderbyn. O ran profion diagnostig, dywedodd Dr Bowdler fod gwaith ar fynd i hwyluso profion diagnostig a sicrhau bod gan gleifion apwyntiadau wedi’u trefnu cyn cael eu rhyddhau lle bo modd.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ian Smith yngl?n â gosod goleuadau LED yn lle goleuadau fflworoleuol yn yr Uned Mân Anafiadau yn yr Wyddgrug, cytunodd Rob Smith i holi’r swyddfa ystadau a rhoi ateb.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Hughes ei fod wedi bod yn aros am 8 awr yn Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Wrecsam a dywedodd, er ei fod wedi derbyn gwasanaeth rhagorol, y byddai cyfathrebu'n well mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn lleihau rhwystredigaeth y cleifion ac yn eu galluogi i ddeall pam mae oedi. Soniodd y Cynghorydd Hughes hefyd am ysmygu y tu allan i fynedfa’r ysbyty a gofynnodd sut y gellid gwella'r arwyddion a hybu'r risgiau i iechyd.  Llongyfarchwyd staff yn Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Wrecsam gan y Cynghorydd Hughes am y gwaith rhagorol maent yn ei wneud. 

 

Dywedodd Rob Smith fod disgwyl am 8 awr yn annerbyniol a chyfeiriodd at y targed cenedlaethol o 4 awr y dylid cadw ati yn y rhan fwyaf o achosion. Eglurodd fod BIPBC yn gweithio’n agos gydag ysbytai i leihau'r pwysau ar Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a chytunodd i holi ymhellach yngl?n â’r mater cyfathrebu a rhoi gwybod i'r Pwyllgor wedyn. Cytunodd gyda’r sylw y byddai'n fuddiol i gleifion gael gwybod beth oedd yn digwydd yn rheolaidd pe bai oedi am gyfnod hir. Gan gyfeirio at ysmygu, dywedodd Mr Smith fod hon yn broblem barhaus ac mai ond effeithiau tymor byr yr oedd unrhyw welliannau'n eu cael. Fodd bynnag, byddai’n mynegi unrhyw bryderon penodol a oedd gan yr Aelodau am ysmygu y tu allan i fynedfeydd Ysbyty Maelor wrth yr ysbyty eto. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Marion Bateman ei bod wedi cael gwybod nad oedd yr Adran Pelydr-X yn Ysbyty’r Wyddgrug yn trin plant dan 5 a gofynnodd a oedd BIPBC yn ystyried newid y ddarpariaeth i gynnwys plant iau.  Dywedodd Dr Bowdler fod y gwasanaeth a oedd ar gael yn dibynnu ar sgiliau’r aelod o staff hwnnw a oedd ar ddyletswydd bryd hynny, yn hytrach nag oed y claf.

 

Gan gyfeirio at recriwtio meddygon teulu, gofynnodd y Cadeirydd a oedd amod yn eu contract ei bod yn rhaid iddynt weithio am o leiaf 2 flynedd yng Nghymru. Dywedodd Dr Gareth Bowdler fod meddygon teulu ar gwrs hyfforddi yn derbyn tâl croeso er mwyn eu galluogi i ddechrau gweithio yng Nghymru am ychydig flynyddoedd ar ôl eu hyfforddiant.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am fod yno ac am ateb cwestiynau'r Aelodau'n fanwl.

 

PENDERFYNWYD

 

 (a)      Nodi’r diweddariad am Ofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol; a

 

 (b)      Diolch i Swyddogion BIPBC am ddod i’r cyfarfod a chyfrannu.