Mater - penderfyniadau

Mold Flood Alleviation Scheme - Review of Options Feasibility

14/02/2018 - Mold Flood Alleviation Scheme - Review of Options Feasibility

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad ar waith diweddar dan arweiniad tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol y Cyngor (FCERM) ar adolygiad o opsiynau ymarferol ar gyfer dylunio a darparu Cynllun Lliniaru Llifogydd yn yr Wyddgrug.  Gwahoddwyd cynghorau i gyflwyno manylion cynlluniau ar raddfa fawr i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru (LlC) a oedd yn datblygu rhaglen genedlaethol pum mlynedd o gynlluniau FCERN gydag arian a ddyrannwyd.  Ar ran y Cyngor, roedd Ymgynghorwyr Waterco Consultants wedi ymgymryd ag adolygiad o'r cynllun anfforddiadwy blaenorol yn yr Wyddgrug i archwilio opsiynau ymarferol eraill.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Strategaeth fod yr ymgynghorwyr wedi cael eu comisiynu i nodi ffyrdd o weithredu'r cynllun yn ymarferol ac mai’r ymagwedd arfaethedig oedd cytuno ar raglen gyflenwi fesul cam o gynlluniau cydran llai.  Roedd yr astudiaeth ymarferoldeb cychwynnol wedi nodi cyfanswm cost dros dro o £5.5m a'r bwriad oedd symud hyn i gam nesaf o adroddiad gwerthuso prosiect i ddarparu mwy o fanylion a phrofion.  Roedd newidiadau i'r ddarpariaeth o gyllid grant yn golygu y gallai ceisiadau ar gyfer cynlluniau cymwys dderbyn cyfraniad rhwng 75-85% gan LlC gyda'r gweddill i'w ariannu o raglen gyfalaf y Cyngor.

 

Rhoddodd y Peiriannydd Prosiect drosolwg o wahanol elfennau'r cynllun a ddangoswyd ar y Map Cyfle, gan esbonio bod rhai ardaloedd yn gorgyffwrdd ond y gellid cyflwyno unrhyw un ar ei ben ei hun.  Byddai'r adroddiad arfarnu prosiect yn darparu mwy o ddata technegol a mireiniad o’r costiadau i Lywodraeth Cymru i’w cymharu â chynlluniau eraill yn y rhanbarth.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorwyr Bateman a Shotton, rhoddodd y Peiriannydd Prosiect wybodaeth am danciau storio ataliol.  Mewn perthynas â chostau, eglurodd y Rheolwr fod y cynllun blaenorol o £12 miliwn wedi cynnwys llawer iawn o waith peirianneg sifil ac y gallai'r dull 4-cam ar gyfer y cynllun newydd fod yn fwy manteisiol wrth ddenu arian Llywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn pryderon gan y Cynghorydd Owen Thomas ar yr ardaloedd cyfagos, rhoddodd y Peiriannydd Prosiect fanylion am waith lliniaru llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac eglurodd nod Opsiwn 7 mewn perthynas ag ardaloedd i'r de o'r Wyddgrug.  Gallai gofynion cynllunio ar ddatblygiadau tai yn y dyfodol roi cyfle i gyflawni'r isadeiledd a ddymunir a byddai'n cynnwys cyfyngiadau ar gyfraddau d?r ffo i sicrhau nad oedd y rhain yn ychwanegu at broblemau llifogydd.  Er bod y cynllun newydd yn effeithio llai ar dirfeddianwyr, roedd rhai trafodaethau anffurfiol wedi digwydd a byddai dulliau ffurfiol yn rhan o'r cam nesaf.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i swyddogion edrych ar ei bryderon ynghylch ardaloedd i lawr yr afon fel Llong a Phontblyddyn ac effaith llif o afonydd eraill yn ogystal ag Alyn.  Dywedodd y Rheolwr y byddai'r gwaith parhaus ar y cynllun rheoli perygl llifogydd yn dod yn ôl i'w ystyried gan y Pwyllgor.  Cytunodd y Peiriannydd Prosiect i wneud ymholiadau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ar waith gwella a wnaed ym Mhontblyddyn.

 

Siaradodd y Cynghorydd Bithell am yr amrywiol achosion o lifogydd hanesyddol yn yr Wyddgrug a chymeradwyodd y ffordd ymlaen a nodwyd yn yr adroddiad a fyddai'n helpu i fynd i'r afael ag agweddau eraill.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cyfleoedd unigol a nodwyd yn Astudiaeth Dichonoldeb Waterco ar gyfer 'rheoli llifogydd yn gall' yn yr Wyddgrug yn cael eu symud ymlaen i’r cam 'Adroddiad Arfarnu Prosiect' fel bod yr opsiynau cychwynnol a nodwyd yn cael eu datblygu a'u profi ymhellach o ran eu hyfywedd economaidd ac felly y gellir eu cyflawni yn y dyfodol drwy rhaglen biblinell Llywodraeth Cymru.