Mater - penderfyniadau
Investment Strategy and Manager Summary
28/02/2018 - Investment Strategy and Manager Summary
Tynnodd Mr Buckland sylw at yr enillion cadarnhaol ar fuddsoddiad dros y cyfnod hyd at 30 Medi 2017 a’r tymor hirach. Dros pob cyfnod a gafodd eu dangos, mae pob un yn well o lawer na’r disgwyl yn y rhagdybiaeth ariannu, sy’n gadarnhaol ac yn cyfrannu at y sefyllfa ariannol well.
Roedd perfformiad cymysg ar draws y rheolwyr, a’r rhai nad oedd yn bodloni eu targed ar dudalen 155 (wedi’i liwio mewn coch). Nodwyd y byddai rhai o’r rheolwyr a ddangoswyd yn symud o dan y strwythur cyfun yn 2018.
Nododd y Cadeirydd fod gwerthoedd y farchnad wedi gwneud cynnydd (dros £1.75 biliwn ar ddiwedd Medi). Holodd y Cadeirydd a oedd y ffigurau ar gyfer Hydref ar gael eto. Cadarnhaodd Mr Buckland fod y ffigurau ar gael. Cadarnhaodd eu bod wedi parhau i godi ac yn agos at £1.8 biliwn. Nododd Mr Middleman, ers diwedd y dydd ddoe, eu bod nawr yn debygol o fod wedi mynd heibio'r lefel £1.8 biliwn.
PENDERFYNWYD:
1. Nododd y Pwyllgor y strategaeth buddsoddi a pherfformiad rheolwyr dros y chwarter, yn ogystal â’u trafod.
2. Ystyriodd y Pwyllgor hyn yng ngoleuni adroddiad diweddariad yr Economai a’r Farchnad.