Mater - penderfyniadau

The Management of Standard and Brookhill Landfill Sites

01/02/2018 - The Management of Standard and Brookhill Landfill Sites

Cyflwynodd Reolwr y Gwasanaethau Gwastraff ac Ategol adroddiad i amlinellu’r camau nesaf o ran rheolaeth hirdymor dau safle tirlenwi, sef safle Stad Ddiwydiannol Standard a safle Brookhill ym Mwcle.

 

            Ar hyn o bryd reolir y ddau safle gan dîm bychan sy’n gweithio yn Alltami, gyda chefnogaeth contractwyr ac ymgynghorwyr arbenigol sy’n darparu amryw o weithgareddau ar y safleoedd. Oherwydd y pryderon ynghylch cadernid y gwasanaeth, ac i geisio diogelu lefelau incwm yn y dyfodol, ym mis Mai 2015 cymeradwyodd Cabinet y Cyngor adroddiad i gontractio rheolaeth y safleoedd i gwmni allanol. Mae'r adroddiad hwn yn egluro pan na chafwyd tendr hyfyw.

 

            Amlinellodd Reolwr y Gwasanaethau Gwastraff ac Ategol y model GasSim, yr incwm diweddar yn sgil cynhyrchu trydan a’r rhagamcaniadau incwm i’r dyfodol, fel y nodir yn atodiadau 1 i 3 yr adroddiad.

 

            Croesawodd y Cyng. Mike Peers y bwriad i osod paneli PV ar y ddau safle tirlenwi a gofynnodd a yw’r incwm yn sgil yr injan, fel y nodir yn adran 1.09 yr adroddiad, yn cwrdd â chost rhedeg safle Brookhill.Gofynnodd hefyd am ragor o wybodaeth am anfodlonrwydd cynigwyr i dderbyn y risg ynghlwm wrth warantu lefelau incwm y ddau safle. Rhagwelir y bydd yr injans nwy yn cynhyrchu oddeutu £170,000 o incwm yn ystod 2017-18. O ran y cynigwyr, er bod y ddau gynigydd yn fodlon gweithredu'r safleoedd roedd arnynt eisiau i'r Cyngor gymryd y risg o ran gwarantu'r lefelau incwm. Byddai gwaith rheoli’r safle yn rhan o waith dyddiol y tîm a byddai’r risgiau amgylcheddol yn cael eu lleihau drwy’r cynllun terfynu cytunedig a’r gwaith monitro parhaus ar y safle.

 

PENDERFYNWYD

 

Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cynnig i barhau i reoli’r safleoedd tirlenwi dan y portffolio Strydwedd a Chludiant.