Mater - penderfyniadau
Healthy Schools and Pre-School Programme
10/05/2018 - Healthy Schools and Pre-School Programme
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu, Iechyd, Lles a Diogelu adroddiad i ddarparu diweddariad ar y gwasanaeth a’r ffordd mae ysgolion yn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru. Cyflwynodd yr wybodaeth gefndir a rhoddodd adroddiad ar Gynllun Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru (WNHSS) a Chynllun Cyn-Ysgolion Iach a Chynaliadwy (HSPSS) fel y nodir yn yr adroddiad. Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu adroddiad hefyd ar y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) a’r Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP). Roedd Rhaglen Waith Ysgolion Iach a Chyn-Ysgol Ebrill 2017 – Mawrth 2018 ynghlwm yn yr adroddiad.
Sylwodd y Cynghorydd Kevin Hughes ar y gostyngiad yn yr arian oedd ar gael i ysgolion a’r effaith bosibl ar iechyd a lles plant a phobl ifanc. Dywedodd yr Ymgynghorydd Dysgu y gallai diffyg arian mewn ysgolion cynradd gyfyngu ar nifer y gweithgareddau a’r arbenigedd allanol y gallai ysgolion ymwneud â nhw. Mewn ymateb i sylwadau pellach gan y Cynghorydd Hughes yngl?n â phwysigrwydd iechyd y geg a deiet da i blant ifanc, esboniodd yr Ymgynghorydd Dysgu fod iechyd y geg wedi’i gynnwys yn y meini prawf maethol.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Cunningham y dylid llongyfarch pob ysgol yn Sir y Fflint ar eu llwyddiant i hyrwyddo Ysgolion Iach. Awgrymodd yr Aelod Cabinet dros Addysg y dylid gwahodd holl Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid i’r Digwyddiad Gwobrwyo Ysgolion Iach. Cytunodd yr Ymgynghorydd Dysgu i wahodd y Pwyllgor ar ôl trefnu dyddiad.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu ragor o wybodaeth am gynnydd yr ysgolion uwchradd fel rhan o’r Cynllun Ysgolion Iach.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma yn y Cynlluniau Ysgolion Iach a Chyn-Ysgolion a llongyfarch yr ysgolion am y gwaith a wnaed hyd yma; a
(b) Bod yr Aelodau’n cefnogi’r ysgolion a’r cyn-ysgolion i ymgysylltu’n weithredol ym mhob cam o’r cynlluniau.