Mater - penderfyniadau

Use of Social Media and Internet Safety

03/04/2018 - Social Media & Internet Safety in Schools

Cyflwynodd y Prif Swyddog Addysg Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad am ddiogelwch cyfryngau cymdeithasol a diogelwch ar y rhyngrwyd a ddarperir i ysgolionCyflwynodd Claire Sinnott, Ymgynghorydd Dysgu – Iechyd, Lles a Diogelu, a’i gwahodd i gyflwyno’r adroddiad.

 

                        Eglurodd yr Ymgynghorydd Dysgu bod yr adroddiad wedi'i lunio mewn ymateb i gais gan yr Aelodau am sicrwydd bod plant a phobl ifanc yn ysgolion Sir y Fflint yn derbyn cefnogaeth briodol i ddatblygu eu sgiliau o ran defnyddio cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd yn ddiogel.Darparodd wybodaeth gefndir a chyd-destun ac adroddodd ar y datblygiadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

                        Siaradodd y Cyng. Kevin Hughes o blaid offeryn hunanadolygu e-ddiogelwch 360 Degree Safe Cymru a dywedodd y dylai bod pob ysgol yng Nghymru yn cael ei hannog i ddefnyddio’r offeryn. Bu iddo longyfarch Ysgol Gynradd Parc Cornist am dderbyn y Marc Diogelwch Ar-Lein a phwysleisiodd yr angen am ymgysylltu â rhieni ac annog cefnogaeth gan gyfoedion mewn ysgolion.Yn ystod y drafodaeth cytunwyd y byddai'r Cyng. Kevin Hughes yn llunio datganiad ar gyfer papurau newydd lleol ar y gefnogaeth a ddarperir gan y Cyngor i blant, pobl ifanc ac athrawon ar ddiogelwch cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd a chylchredeg y datganiad i Aelodau’r Pwyllgor.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau’r Cadeirydd a'r Cyng. Dave Mackie ar gasglu’r holl wybodaeth i athrawon mewn pecyn, cytunodd yr Ymgynghorydd Dysgu i ddarparu pecyn gwybodaeth a’i gylchredeg i bob ysgol.

 

                        Mewn ymateb i ymholiad gan y Cyng. Tudor Jones yngl?n â sut y caiff y gwaith o godi ymwybyddiaeth ymhlith disgyblion ei fesur i sicrhau ei effeithiolrwydd, eglurodd yr Ymgynghorydd Dysgu bod Gwasanaethau Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn mynd i ysgolion uwchradd bob dwy flynedd a bod pob ysgol yn rhan o hyn.Cytunodd i rannu’r canfyddiadau ar fesur effeithiolrwydd y gwaith i godi ymwybyddiaeth.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)      Nodi’r adroddiad ar ddiogelwch cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd a chadarnhau eu bod wedi derbyn lefel briodol o sicrwydd ynghylch y gefnogaeth a ddarperir i blant, pobl ifanc ac athrawon i’w cadw’n ddiogel;

 

(b)      Cydnabod y gefnogaeth i ysgolion a datblygiad parhaus y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a defnyddio offeryn 360 Degree Safe Cymru

 

(c)       Derbyn adroddiadau rheolaidd ar ddiogelwch cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd a ddarperir i blant, pobl ifanc ac athrawon.