Mater - penderfyniadau

Class Sizes

03/04/2018 - Class Sizes

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad i hysbysu’r Aelodau o Grant Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod a Chodi Safonau Llywodraeth Cymru. Dywedodd bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cyhoeddi manylion cronfa £36 miliwn newydd i fynd i’r afael â maint dosbarthiadau babanod ac i godi safonau, a fydd ar gael o 1 Ebrill 2018 tan 31 Mawrth 2021. Soniodd y Prif Swyddog Dros Dro am y prif ystyriaethau, fel y nodir yn yr adroddiad, a thynnu sylw at feini prawf y grant a chais y Cyngor i Lywodraeth Cymru a oedd yn amlinellu’r defnydd arfaethedig o’r cyllid refeniw i godi safonau ysgolion penodol.

 

                        Cyfeiriodd y Cyng. Kevin Hughes at y ddau brosiect arfaethedig yn yr adroddiad a gofynnodd pa waith sydd wedi’i wneud o ran y materion priodoldeb/amgylchiadau.Mewn ymateb, amlinellodd Uwch Reolwr, Cynllunio a Darpariaethau Ysgolion, yr amcanion a’r meini prawf ar gyfer nodi prosiectau ac eglurodd bod 78 o ysgolion yn y sir gyda dosbarthiadau o 29 disgybl a mwy.

 

                        Mewn ymateb i ymholiad gan Mrs Rebbeca Stark yngl?n â sut y bydd y cynnig yn effeithio ar ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim, dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro mai dim ond un ysgol sydd yn y categori oren ar gyfer cefnogaeth.

 

 Gofynnodd y Cyng. Patrick Heesom am adroddiad pellach ar sut mae rhaglen band B Ysgolion yr 21ain yn cyd-fynd â’r grant maint dosbarthiadau gan Lywodraeth Cymru. Cytunodd y swyddogion i ddarparu adroddiad yn y flwyddyn newydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynnwys yr adroddiad a chefnogi cyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru.