Mater - penderfyniadau
Joint Protocol between Internal Audit and Wales Audit Office
15/02/2018 - Joint Protocol between Internal Audit and Wales Audit Office
Cyflwynodd Rheolwr yr Adain Archwilio Mewnol Brotocol wedi'i ddiweddaru rhwng yr Archwiliad Mewnol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.
Ers ei ddiweddaru diwethaf yn 2015, mae’r Protocol wedi ei adnewyddu i sicrhau ei fod yn adlewyrchu’r arfer presennol ac yn cwrdd â’r gofynion. Dim newidiadau mawr wedi eu gwneud ar wahân i ddiweddaru manylion y timau mewnol ac allanol. Cynhaliwyd cyfarfodydd bob chwarter rhwng y ddau barti i drafod cynnydd a chynllunio.
Meddai Matt Edwards ei fod yn arfer da i ddatblygu'r fframwaith i wneud perthnasau gwaith yn ffurfiol ac i gadw rolau pawb ynghlwm.
Gofynnodd Sally Ellis os oedd protocolau eraill yn eu lle i roi sicrwydd o drefniadau gwaith gyda chyrff eraill fel yr Adran Gwaith a Phensiynau. Eglurodd Rheolwr yr Adain Archwilio Mewnol y gellir cydnabod hyn fel rhan o’r broses mapio sicrwydd.
PENDERFYNWYD:
Derbyn y Protocol fel sail i gydweithrediad parhaus rhwng yr archwilwyr mewnol ac allanol.