Mater - penderfyniadau

Penodiadau i Gyrff Allanol

24/10/2017 - For Information - Appointments to Outside Bodies

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i roi gwybod i’r Cyngor am y cynnydd o ran penodi aelodau i Gyrff Allanol cenedlaethol a rhanbarthol. Dywedodd bod y rhestr Penodiadau i’r Cyrff Allanol wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Blynyddol ym mis Mai 2017, ac yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol, bu i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad gydag Arweinyddion Gr?p, benodi bob un ar wahân i un corff ar y rhestr sydd wedi’i atodi i'r adroddiad. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod un lle gwag lle nad oedd wedi bod modd gwneud enwebiad, oedd Cymdeithas Pob Fyddar Gogledd Cymru ac felly roedd yn parhau yn le gwag ar hyn o bryd. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod rhai llefydd gwag cyfredol ar y rhestr yn berthnasol i’r diweddar Gynghorydd Ron Hampson ac roedd y rhain yn berthnasol i’r Ward a byddant yn cael eu llenwi yn dilyn isetholiad Gorllewin Bwcle Bistre.     

 

                        Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers i’r lle gwag ar Bwrdd Llywodraethwyr Theatr Clwyd a gofynnodd am gadarnhad bod y lle gwag yn bodoli. Cynigiodd os nad yw’r lle gwag yn bodoli, yna byddai'r Cynghorydd Kevin Hughes yn cymryd lle'r Cynghorydd Veronica Gay. Mewn ymateb, eglurodd y Prif Weithredwr bod y Bwrdd Llywodraethwyr yn cael ei adolygu yn fewnol gan y Theatr a gan y Cabinet, a gwnaeth sylwadau ar rai o’r cynigion ynghylch aelodaeth y Bwrdd, a dywedodd bod swyddi allanol yn cael eu hysbysebu fel ffordd o benodiad cyhoeddus i agor hygyrchedd i fod yn Aelod o'r Bwrdd Theatr. Dywedodd y Prif Weithredwr, ar hyn o bryd fydd aelodaeth gyfredol y Bwrdd Llywodraethwyr, yn fewnol ac allanol, yn parhau'r un fath. Fodd bynnag, i gydnabod y cynnig gan y Cynghorydd Peers, dywedodd nad oedd yn newid y nifer neu gyfran o gynrychioliadau. 

 

                        Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at y ddwy le gwag ar y rhestr ar gyfer SACRE, a dywedodd bod y Cynghorydd Paul Cunningham wedi gwirfoddoli i ymuno â’r aelodaeth y Pwyllgor, felly dim ond un lle gwag sydd ar y corff hwn.  

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y rhestr gyfredol o’r Cyrff Allanol sydd wedi’i atodi fel Atodiad A, yn cael ei nodi; a

 

 (b)      Pan fydd llefydd gwag dal heb eu llenwi, y dylid tynnu’r rhain o’r rhestr Cyrff Allanol.