Mater - penderfyniadau
Outcome of the Active Travel Consultation Process
21/12/2017 - Outcome of the Active Travel Consultation Process
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad am Ganlyniad y Broses Ymgynghori ar Deithio Llesol, a amlinellodd gynnydd yn dilyn ystyriaeth o adroddiad gerbron y Cabinet 6 Mehefin, ar ddarparu dyletswyddau o dan Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Roedd nifer o ddigwyddiadau ymgynghori anffurfiol wedi'u cynnal cyn yr ymgynghoriad statudol ac o ganlyniad i adborth, roedd nifer o ddiwygiadau wedi'u gwneud i'r Map Rhwydwaith Integredig. Cafodd rhai ceisiadau am lwybrau eu gwrthod, a bu sawl diwygiad i’r Map Rhwydwaith Presennol. Byddai’r Map Rhwydwaith Integredig wedi’i ddiwygio a’r Map Rhwydwaith Presennol wedi’i ddiwygio yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w cymeradwyo 3 Tachwedd 2017.
Esboniodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod yr ymatebion a amlinellir yn atodiad yr adroddiad yn gais uchelgeisiol, ac ni fyddai modd cyflawni sawl cynllun.
PENDERFYNWYD:
Bod cynnwys yr adroddiad a'i gyflwyniad i Lywodraeth Cymru’n cael ei gymeradwyo.