Mater - penderfyniadau

Financial Forecast and Stage One of the Budget 2018/19

20/11/2017 - Financial Forecast and Stage One of the Budget 2018/19

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad yn gosod allan y sefyllfa rhagolwg ariannol presennol ar gyfer 2018/19 er mwyn ceisio barn ar Gam 1 cynigion cyllideb refeniw Cronfa’r Cyngor.  Roedd opsiynau cyllideb ar gyfer pob portffolio gwasanaeth wedi cael eu hystyried  gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol, gan nodi fod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru (LlC) o setliad llywodraeth leol dros dro yn newidyn allweddol yn y rhagolwg ariannol.

 

Rhannwyd nodyn briffio gan swyddogion ynghylch canlyniad y cyhoeddiad setliad, ynghyd â gwybodaeth a ddosbarthwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

Roedd trafodaethau yn ystod y broses gyllidebu wedi cynhyrchu pryderon eang yngl?n ag effaith gostyngiadau pellach ar gadernid gwasanaethau, fel y dangoswyd gan lefelau asesiadau risg.  Nid oedd unrhyw wrthwynebiad wedi codi i opsiynau arbedion yn y gyllideb a oedd yn gyfanswm o ryw £3m, ac eithrio arbedion o £35,000 ar gyfer y Gwasanaeth Cerddoriaeth ar gyfer model gwasanaeth newydd sydd yn dal i gael ei ddatblygu.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) grynodeb o’r arbedion a gyflawnwyd yn ei bortffolio, gan nodi fod rhai elfennau o’r gyllideb y tu allan i reolaeth y Cyngor.  Roedd mwyafrif helaeth yr arbedion a gynlluniwyd eisoes wedi cael eu cyflawni a oedd yn golygu y byddai arbedion pellach yn beryglus i lefelau gweithredu.  Mae’r wybodaeth feincnodi yn dangos fod gwasanaethau yn gweithredu ar yr un lefel costau cyfartalog neu ar lefel costau cyfartalog is nag awdurdodau cyffelyb.

 

Dywedodd yr Uwch-Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol fod arbedion yn ei phortffolio hi wedi digwydd yn bennaf o ganlyniad i ailstrwythuro mawr a adawodd y gwasanaeth yn gweithredu ar lefel optimaidd.  Roedd perygl y byddai arbedion pellach yn effeithio ar allu’r gwasanaeth i ateb galw mawr y gweithlu eang.

 

Ar ôl cyflawni mwyafrif yr arbedion a gynlluniwyd drwy newidiadau strwythurol a meddalwedd newydd, dywedodd y Rheolwr Cyllid, Cyfrifo a Systemau Corfforaethol fod gwaith yn parhau i gyflawni'r £200,000 sy'n weddill.  Roedd pwysau mawr ar y gwasanaeth, yn arbennig yng ngoleuni sefyllfa ariannol newidiol y Cyngor.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid, Gwasanaethau Cymunedol drosolwg o arbedion a ddarparwyd yn y Gwasanaethau Cwsmeriaid, Refeniw a Budd-daliadau a Hawliau Lles, a gynhyrchwyd yn bennaf drwy wasanaeth Sir y Fflint yn Cysylltu.  Siaradodd am ddatblygiad gwasanaethau digidol ar gyfer rhoi mynediad i gwsmeriaid a gwella’r Gwasanaeth Cofrestru a oedd yn perfformio’n dda yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol cenedlaethol.

 

Roedd swyddogion yn cynnal dadansoddiad manwl o ganlyniad y setliad ac yn aros am wybodaeth am grantiau penodol.  Yn dilyn y rhagolwg dechreuol sef bwlch rhagamcanol o £11.7m, byddai'r gostyngiad o 0.9% mewn cyllid yn creu cynnydd o £1.9m yn y bwlch yn y gyllideb a byddai cyfrifoldebau newydd dros ddyletswyddau digartrefedd yn bwysau ychwanegol.  Rhagamcanwyd hefyd y byddai pwysau ychwanegol ar ardrethi annomestig cenedlaethol yn debygol o gael effaith net o £64,000.  Ar grynodeb o chwyddiant, roedd y cynnydd rhagamcanol mewn costau nwy yn cael ei adolygu, yn dilyn her.  Yr unig arbedion newydd i’r Gwasanaethau Corfforaethol oedd £0.010m mewn Rheoli Cofnodion.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones a oedd y budd i’r Cyngor o gasglu’r Ardrethi Annomestig Cenedlaethol yn gorbwyso’r adnoddau sy’n ofynnol i wneud hyn.  Esboniodd y Prif Weithredwr fod perfformiad cynghorau unigol ar dargedau casglu yn effeithio ar ailddosbarthiad cyllid ledled Cymru.  Roedd y model gweithredu darbodus hwn yn Sir y Fflint wedi cael ei gydnabod.  Wrth feincnodi darpariaeth gwasanaeth TGCh, dywedodd y Prif Swyddog fod costau uned yn is na’r cyfartaledd gyda gwariant yn fwy eang ar draws y Cyngor i gefnogi lefelau uwch o weithio ystwyth.  Roedd hwn yn duedd parhaus, gyda chefnogaeth y strategaeth ddigidol, i helpu i gyflawni arbedion mewn meysydd eraill.

 

Cododd y Cadeirydd ymholiad yngl?n ag ardrethi busnes adeilad Neuadd y Sir a chafodd ei hysbysu y byddai adroddiad cyfrinachol yn cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Cabinet.

 

Cydnabuwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom fod opsiynau cyllideb yn cyrraedd cyfnod hanfodol ond cododd bryderon am effaith unrhyw drefniadau gweithredol posibl i gydweithio er mwyn mynd i’r afael â 'meysydd diffygiol’.  Gofynnodd hefyd yngl?n â threfniadau wrth gefn i reoli’r cynnydd mewn chwyddiant.  Dywedodd y Prif Weithredwr bod y Cyngor heb unrhyw gynlluniau newydd yn eu lle i gydweithio a bod trafodaethau rhanbarthol yn parhau i fod ar agor.  Dywedodd y Cynghorydd Shotton na ellid datrys gostyngiadau ariannol gan lywodraeth genedlaethol na’r cynnydd mewn pwysau trwy rannu cyfrifoldebau rheoli â chynghorau eraill.  Cyfeiriodd at y datganiadau cadernid ar draws gwasanaethau, llawer ohonynt wedi cael eu hasesu fel rhai ‘oren’, a galwodd ar Aelodau i fyfyrio dros oblygiadau cam nesaf y broses gyllidebu.  O ran Neuadd y Sir, dywedodd fod gan y Cyngor ddyletswydd ymrwymedig i edrych ar faint ac effeithlonrwydd ei adeiladau er mwyn nodi arbedion go iawn.

 

Mewn ymateb i sylwadau yngl?n ag arian wrth gefn, atgoffodd y swyddogion mai dim ond un waith y gellid defnyddio’r rhain a bod protocol ar gyfer penderfyniadau ar gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.  Cynhwyswyd diweddariad fel rhan o adroddiad monitro’r gyllideb refeniw.

 

Yn dilyn pryderon y Cynghorydd Arnold Woolley ar effaith materion cynhwysedd mewn Cyfrifon Taladwy, esboniwyd fod y tîm bellach yn fwy darbodus ond nid oedd hyn yn golygu unrhyw berygl i sefyllfa llif arian mentrau bach a chanolig.

 

 Tynnodd y Cynghorydd Paul Johnson sylw at y cyfeiriad at natur anrhagweladwy chwyddiant yn yr hinsawdd economaidd bresennol.  Esboniodd swyddogion fod dull gwaith yn seiliedig ar risg yn cael ei ddefnyddio gyda chwyddiant a bod rhagamcanion yn seiliedig ar ddeallusrwydd cenedlaethol a briffiau rheolaidd gydag ymgynghorwyr arbenigol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Jones yngl?n â’r cyllid a roddwyd gan LlC i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac nad oedd wedi gwella effeithlonrwydd y gwasanaeth hwnnw.  Gan hynny, ymddengys yn rhesymegol ailystyried dyraniadau i gynghorau.  Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod y setliad dros dro yn fater ar wahân i’r fformiwla ariannu.  Esboniodd y byddai’r Cyngor yn parhau i gyflwyno achos i LlC am werth gofal cymdeithasol a’i fuddion i’r Gwasanaeth Iechyd.  Soniodd y Cynghorydd Jones am y cysylltiadau rhwng y fformiwla ariannu a chyfrifiad yr Asesiad O Wariant Safonol (SSA) a gofynnodd a oedd dangosyddion allweddol ar goll i gefnogi achos cyllid y Cyngor i LlC.  Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd Shotton fod angen llais unedig gan lywodraeth leol yng Nghymru.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cadeirydd, dywedodd y Prif Weithredwr bod amcangyfrifon poblogaeth yn cael eu defnyddio ar lefel cenedlaethol i hysbysu yngl?n â dosbarthu cyllid.

 

Pan ofynnodd y Cynghorydd Heesom iddo geisio newid y cyfrifiad SSA, dywedodd y Cynghorydd Shotton fod angen dull gweithio ar y cyd rhwng cynghorau yng Nghymru er mwyn cryfhau’r achos cenedlaethol.

 

Cytunodd y Cynghorydd Jones fod ffigwr y setliad a’r fformiwla ariannu yn wahanol a bod dosbarthiad y ddau yn fater allweddol.  Tynnodd sylw at y ffaith na ddylai’r Cyngor ddibynnu’n gyfan gwbl ar y fformiwla ariannu i wneud sylwadau i LlC.

 

Yn dilyn cynnig y Cynghorydd Johnson i dderbyn argymhellion yn yr adroddiad, eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi’u derbyn i unrhyw un o opsiynau Cam 1 i’w cyflwyno i’r Cabinet a bod y sylwadau a godwyd wedi cael eu nodi.

 

Cynigodd y Cynghorydd Jones fod y datrysiad yn cynnwys yr arbedion Rheoli Cofnodion ynghyd â rhai'r Gwasanaethau i Gwsmeriaid.  Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi cynigion cyllideb a phwysau ariannol Cam Un, a'r arbedion arfaethedig canlynol:

 

·         Rheoli Cofnodion – gostyngiad yn nifer y cofnodion sy'n cael eu storio - £0.010m.

·         Gwasanaethau i Gwsmeriaid – byddai modelau gwasanaeth newydd i ddarparu mynediad digidol i gwsmeriaid yn creu arbedion o £0.050m.

·         Sir y Fflint yn Cysylltu – gallai opsiynau i newid darpariaeth y gwasanaeth Cysylltu greu arbedion rhwng £0.056m a £0.112m yn dibynnu ar yr opsiwn a ddewisir.

·         Gwasanaethau Cofrestru – byddai incwm ychwanegol o godi tâl am ddatgan genedigaethau yn creu £0.012m ychwanegol.