Mater - penderfyniadau

Financial Forecast and Stage One of the Budget 2018/19

24/11/2017 - Financial Forecast and Stage One of the Budget 2018/19

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i amlinellu sefyllfa'r rhagolwg ariannol presennol ar gyfer 2018/19 a cheisio barn ar Gam 1 o gynigion cyllideb refeniw Cronfa’r Cyngor ar gyfer y portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol.  Byddai cynigion ar gyfer portffolios eraill yn cael eu hystyried gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol cyn cyflwyno i’r Cabinet fis Tachwedd/Rhagfyr.  Yn rhan o’r dull fesul cam mewn perthynas â’r gyllideb, dywedwyd wrth yr Aelodau nad oedd y diffyg o £11.7 miliwn (a ragwelid ar hyn o bryd) yn cynnwys unrhyw fodelu o ran lefelau Treth y Cyngor.

 

Nid oedd y Prif Weithredwr yn dymuno dyfalu yngl?n â'r sefyllfa genedlaethol tan y cyhoeddiad ar y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro a oedd ar ddod.  Ni wyddys a fyddai unrhyw ostyngiad ariannol i'r cyllid yn cynnwys unrhyw ostyngiadau i grantiau penodol a ph’un a fyddai cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol.  Roedd yn bwysig parhau i adolygu pwysau ariannol ar y portffolio.  Anogwyd yr Aelodau i graffu ar y datganiadau gwytnwch a oedd yn dangos y sefyllfa bresennol o ran risg mewn gwasanaethau.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) drosolwg o'r datganiadau gwytnwch.  Roedd lefel risg nifer o feysydd gwasanaeth wedi’i hasesu’n ‘Oren’ ac roedd pwysau yn y sector gofal yn effeithio ar y galw am wasanaethau.  Ni fu erioed gymaint o atgyfeiriadau diogelu na phwysau ar dimau rheng flaen.

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid wybodaeth am gamau a gymerwyd i leihau’r pwysau penodol ar bortffolios ynghyd ag effaith newidiadau i’r ddeddfwriaeth a meini prawf cymhwyso.  Cyfanswm yr opsiynau effeithlonrwydd ar gyfer y portffolio oedd £0.450 miliwn ac roeddent yn cynnwys cynnydd yn y cap codi tâl am ofal cartref a oedd wedi’i gytuno’n flynyddol gyda Llywodraeth Cymru (LlC).

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, dywedodd y Rheolwr Cyllid nad oedd y pwysau a oedd yn dod i’r wyneb a adroddwyd wrth y Cabinet yn cynnwys pwysau o ran gofal cymdeithasol, fel lleoli y tu allan i’r sir (tua £0.700 miliwn) a oedd yn destun adolygiad parhaus.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Hilary McGuill gywirdeb y cynnydd amcanol mewn chwyddiant ac fe ddywedwyd wrthi ei fod wedi’i seilio ar y wybodaeth genedlaethol ddiweddaraf.

 

Wrth gynorthwyo ag amserlen y gyllideb ar gyfer 2018/19, dywedodd y Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg Gorfforaethol a Systemau) y byddai dadansoddiad manwl o’r deilliannau o'r setliad dros dro'n pennu deilliannau a oedd yn gysylltiedig â'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Fe soniodd y Prif Weithredwr am yr angen i gynllunio ymlaen llaw er mwyn cyflawni nifer o’r opsiynau effeithlonrwydd.  O ran pwysau penodol, er bod ymrwymiad LlC i ddiogelu'r grant Cefnogi Pobl yn cael ei groesawu, roedd pwysau o £0.387 miliwn yn parhau ar wasanaethau craidd nad oeddent yn gymwys i gael cymorth grant.  Tri maes i’w trafod oedd: achos cryf i’w wneud dros gwrdd â'r cynnydd yn ffioedd y sector annibynnol yn wladol; refeniw o'r Gronfa Gofal Canolraddol i gael ei neilltuo; ac eithriad o’r cynnydd fesul cam mewn ffioedd gofal canolraddol i gasglu’r swm mwyaf posib’ o incwm yn 2018/19.

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod dros £8 miliwn o arbedion wedi’u gwneud yn y portffolio dros y pum mlynedd ddiwethaf, a oedd yn 13% o'r gyllideb, ac roedd yr effaith hon wedi'i hadlewyrchu yn sgoriau risg y gwasanaethau hynny.

 

Cwestiynodd y Cadeirydd a ddylid rhoi sgôr ‘Goch’ i lefelau gwytnwch Gwasanaethau Pobl H?n i adlewyrchu risgiau o’r cynnydd a ddisgwylir yn y boblogaeth h?n a mwy o alw am leoliadau gofal cymdeithasol preswyl.  Teimlai y byddai’r newid hwn hefyd yn ategu’r achos am fwy o gyllid.  Dywedodd y Prif Weithredwr mai asesiad o'r sefyllfa bresennol oedd y datganiadau gwytnwch a'u bod yn gallu newid.  Awgrymodd y gellid newid y lefel i ‘Oren’ i gydnabod bod y gwasanaeth yn gallu ateb y galw ar hyn o bryd, ond y gallai wynebu mwy o risg y flwyddyn ganlynol.  Cytunodd y Prif Swyddog a dywedodd y dylid monitro hyn dros chwe mis.

 

Atgoffwyd yr Aelodau gan y Cynghorydd Bernie Attridge o ymrwymiad y Cabinet i warchod y tri chartref gofal a oedd yn eiddo i’r Cyngor ac i ystyried ehangu un o'r cyfleusterau hynny i ateb y galw.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Dave Mackie, dywedodd y Prif Weithredwr bod y sgôr risg ‘Oren’ yn adlewyrchu gwasanaethau yr oedd modd eu darparu ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, pe na bai trafodaethau cyllideb cenedlaethol yn arwain at newid ac y byddai angen ail-adolygu unrhyw un o'r cyllidebau hyn, yna fe allai'r lefelau risg asesedig ar gyfer nifer o feysydd gwasanaeth newid i ‘Goch'.

 

Nododd y Cynghorydd McGuill wasanaethau Iechyd Meddwl, Blynyddoedd Cynnar ac Ailalluogi’n feysydd y byddai buddsoddi ynddynt yn arwain at arbedion yn y dyfodol mewn sectorau eraill.  Gofynnodd a fyddai’r estyniad arfaethedig i gartref gofal Marleyfield ar draul cyfleuster gofal ychwanegol ym Mwcle.  Dywedodd y Cynghorydd Attridge nad oedd hyn yn wir gan fod Bwcle wedi’i nodi fel y lleoliad ar gyfer y cyfleuster gofal ychwanegol nesaf.

 

Mewn ymateb i sylwadau pellach am gefnogi pobl h?n, cyfeiriodd y Prif Swyddog at waith gyda darparwyr a sefydliadau gwirfoddol yn rhan o’r rhaglen Heneiddio'n Dda ac fe soniodd y Cynghorydd Christine Jones am waith o dan y Strategaeth Les.  Cytunodd i anfon yr awgrym yn ei blaen i’r digwyddiad Diwrnod Pobl H?n gael ei gynnal mewn rhannau eraill o'r sir.

 

Mewn perthynas â chostau gofal pob wythnos yng nghartrefi Cyngor Sir y Fflint, gofal ychwanegol a chartrefi gofal y sector annibynnol, dywedodd yr Uwch-reolwr mai'r costau ar hyn o bryd oedd:-

 

-       Sector Annibynnol                                    £653

-       Cartrefi Cyngor Sir y Fflint                       £641

-       Gofal Ychwanegol                                    £430

 

Pan ofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes yngl?n ag effaith pwysau ar y gyllideb, dywedodd y Prif Swyddog bod safonau gofal uchel yn parhau ac fe gyfeiriodd at y cynllun hyfforddi ‘Cynnydd i Ddarparwyr' a phroses 'Uwch-gyfeirio Pryderon‘ i fynd i’r afael â phryderon penodol yngl?n â darparu gofal.  Soniodd bod angen i Lywodraeth Cymru gydnabod bod angen cymorth er mwyn i'r Cyngor allu bod yn deg â darparwyr gofal.

 

Wrth drafod darpariaeth gofal ychwanegol, fe soniodd y Prif Weithredwr am newidiadau i gymorthdaliadau cyllid a oedd yn golygu bod y Cyngor dan bwysau cyllidebol.

 

Er budd Aelodau newydd y Cyngor, cytunwyd y dylid cynnal cyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol yn un o gyfleusterau gofal ychwanegol y sir.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi opsiynau cyllideb y portffolios, a newid lefelau gwytnwch Gwasanaethau Pobl H?n o 'Wyrdd' i 'Oren'; a

 

 (b)      Nodi pwysau ariannol ar bortffolios.