Mater - penderfyniadau

Cofnodion

16/04/2018 - Cofnodion

Cyflwynwyd cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi 2017.

 

Cywirdeb

 

Tudalen 7: Cynghorydd Patrick Heesom – cyfeiriodd at gais 056694 a dywedodd fod pedwar rheswm wedi’u rhoi dros wrthod y cais. Gofynnodd bod y cofnodion yn cael eu diwygio i gynnwys y rhesymau ychwanegol pam mae’r cynnig yn cynrychioli niwed sylweddol, gan danseilio polisïau lleol a chenedlaethol sydd wedi’u dylunio i ddiogelu cefn gwlad agored a chymunedau gydag agweddau gwledig a’r effaith wrth ddynesu at yr anheddiad. Byddai’r cynnig hefyd yn erydu’r cymeriad gwledig a golwg y safle a’r ardal leol gyda’r niwed o ganlyniad i gymeriad a golwg y rhan hon o’r anheddiad.

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad a gynigiwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod gwir a chywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.