Mater - penderfyniadau

Free Childcare Offer

04/04/2018 - Free Childcare Offer

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd adroddiad i roi diweddariad ar raglen cynnig gofal plant am ddim a cheisio cytundeb i ymestyn y cynnig i ardaloedd eraill yn Sir y Fflint. Darparodd wybodaeth gefndirol a dywedodd fod system bwrpasol eisoes wedi’i hadeiladu yn Sir y Fflint i gysylltu â systemau presennol, gan nodi Dechrau'n Deg a Derbyniadau Ysgol fel enghreifftiau, a diolchodd i John Snead o’r Adran TG a Thîm y System Gwybodaeth Ddaearyddol am eu holl waith caled i sicrhau bod y system yn llwyddiannus wrth ddiwallu anghenion gweithredu’r cynllun.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd ar y prif feysydd ystyriaeth, manylwyd arnynt yn yr adroddiad, o ran y cynnig gofal plant, yr hyn mae’n ei olygu i riant, addysg gynnar, cymhwyster ac amcanion y cynllun peilot.  Dywedodd mai dim ond dau gais oedd wedi’u gwrthod hyd yma ac nad oedd y cynnig yn cynnwys costau bwyd a chludiant. Dywedodd y bu iddynt brofi rai heriau ond bu iddynt gydweithio’n dda gyda Llywodraeth Cymru wrth iddynt weithredu’r Cynnig Gofal Plant.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hilary McGuill, Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd, cadarnhaodd nad oedd cap ar yr incwm a dderbynnir ar gyfer gweithredu’r cynnig yn gynnar. Dywedodd hefyd fod y cynllun yn seiliedig ar Wardiau yn Sir y Fflint a bod y wefan www.childcarechoices.gov.uk yn darparu dull i bennu cymhwyster drwy chwiliad cod post.

 

Croesawodd y Cynghorydd Dave Healey y cynllun hwn a dywedodd ei fod yn canolbwyntio ar ardaloedd o gyflogaeth uchel.Gofynnodd a oedd y cynllun wedi cael ei brofi o fewn cymunedau gwledig yn Sir y Fflint, i ddarparu cymorth i’r rhieni hynny a oedd hefyd angen darpariaeth gofal plant. Cydnabu’r Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd y pwyntiau a wnaethpwyd ac eglurodd fod y Tîm yn gweithio’n galed i nodi’r bylchau a chynyddu darpariaeth yn y dyfodol.

 

Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie yngl?n â gwiriadau cymhwyster rhieni a'r perygl o beidio â chael digon o leoliadau gofal plant i ddiwallu anghenion yn y dyfodol.Awgrymwyd y dylid defnyddio codau post ardaloedd wrth gytuno ar gymhwyster yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu’r Cynnig Gofal Plant ac estyniad arfaethedig y Cynllun Peilot i bob rhan o Sir y Fflint.