Mater - penderfyniadau

Annual Improvement Report of the Auditor General for Wales

24/11/2017 - Annual Improvement Report of the Auditor General for Wales

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr Adroddiad Gwella Blynyddol gan Swyddfa Archwilio Cymru oedd yn crynhoi'r archwiliad a’r gwaith rheoleiddio a wnaed yn y Cyngor ers i’r adroddiad diwethaf gael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf. Daeth yr adroddiad, gafodd ei ystyried ochr yn ochr â thri Adroddiad Astudio Swyddfa Archwilio Cymru (uchod), i’r casgliad fod y Cyngor yn cwrdd ei ofynion statudol o ran gwelliant parhaus ac ni wnaeth unrhyw argymhellion ffurfiol.  Rhannwyd ymateb gweithrediaeth y Cyngor i'r pedwar cynnig ar gyfer gwelliant hefyd.

 

Eglurodd Mr. Paul Goodlad o Swyddfa Archwilio Cymru fod fformat newydd wedi ei fabwysiadu ar gyfer rhan gyntaf y ddogfen oedd yn crynhoi’r gwaith archwilio perfformiad yn Sir y Fflint.  Roedd yr ail ran yn berthnasol i holl gynghorau Cymru a byddai'r canfyddiadau cyfun yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad cenedlaethol.  Atgoffodd fod gwelliant yn daith barhaus ac y byddai’r pedwar cynnig dros welliant yn cryfhau trefniadau cyfredol y Cyngor ymhellach.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod gwaith sylweddol wedi ei wneud ar heriau’r gyllideb nesaf a rhoddodd ddatganiad ar wytnwch ariannol dyfodol y Cyngor.  Dywedodd fod Swyddfa Archwilio Cymru yn cydnabod fod cyllidebau’r Cyngor yn cael eu rheoli a’u llywodraethu yn dda, gyda’r systemau yn gyffredinol gadarn.  Roedd yn bwysig gwahaniaethu rhwng safon llywodraethu a rheolaeth ariannol, a faint o arian sydd ar gael i’r Cyngor reoli ei fusnes a’i wasanaethau.  Y diwethaf oedd achosi her i’r Cyngor a chynaliadwyedd y gyllideb, nid y cyntaf.  Amlygwyd pa mor allweddol oedd datganiad cyllideb arfaethedig gan Ganghellor y Trysorlys a Setliad Dros Dro'r Awdurdod Lleol gan Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gyllideb ac Awdurdodau Lleol ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y pwyllgor wedi'i sicrhau gan Gynllun Gwella Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2016/17 a’i fod yn cefnogi’r ymateb gweithredol iddo.