Mater - penderfyniadau
Pension Administration/Communications Update
28/02/2018 - Pension Administration/Communications Update
Dywedodd Mr Robinson bod cynnydd da yn cael ei wneud ond cydnabu bod rhai heriau yn parhau ar y llif gwaith, a chadarnhaodd y byddai pethau yn ôl fel yr oeddynt maes o law.
Nododd Mr Hibbert bod ychydig o bryderon yn yr arolwg boddhad ynghylch cyfathrebu gwybodaeth. Dywedodd Mrs Robinson mewn perthynas â’r tîm gweinyddu, nad oedd unrhyw faterion sylweddol a bod ychydig o adborth negyddol ar un neu ddau o faterion ar eu pen eu hunain. Fodd bynnag, roedd yr holl adborth yn cael ei gymryd o ddifrif a’i weithredu.
Rhoddwyd gopi o'r adroddiad Dangosydd Perfformiad Allweddol i’r aelodau. Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau ystyried a meddwl am gwestiynau erbyn y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor Pensiwn.
PENDERFYNWYD:
1. I’r Pwyllgor ystyried y diweddariad a rhoi sylwadau.
2. Cytunodd y Pwyllgor i newid i’r Cynllun Busnes i gynnwys prosiect newydd ar “gydgasgliad” a Mercer sydd yn awyddus o bosibl i gynorthwyo.