Mater - penderfyniadau

Annual Performance Report 2016/17

21/12/2017 - Annual Performance Report 2016/17

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2016/17 a oedd yn adolygu cynnydd yn erbyn y Blaenoriaethau Gwella fel y manylwyd yng Nghynllun Gwella 2016/17.

 

            Esboniodd y Prif Weithredwr fod yn rhaid cyhoeddi’r adroddiad erbyn 31 Hydref bob blwyddyn, a rhaid i’r Cyngor Sir ei gymeradwyo cyn ei gyhoeddi.  Roedd yr asesiad yn ystyried asesiadau ystyried perfformiad ar gyfer bob Blaenoriaeth Gwella drwy:

 

·         Gynnydd yn erbyn camau gweithredu a phrosiectau allweddol;

·         Cynnydd yn erbyn risgiau a heriau wedi’u nodi;

·         Canlyniadau dangosyddion perfformiad (dadansoddi targedau a thuedd); a

·         Gweithgaredd rheoleiddio, archwilio ac arolygu.

 

Ychwanegodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol, er gwaethaf cefnlen o galedi ariannol a wynebai'r Cyngor, roedd Sir y Fflint wedi'i sgorio fel yr awdurdod gorau yng Nghymru i ddangos gwelliant rhwng 2015/16 a 2016/17.

 

Diolchodd yr Aelodau'r staff ar draws yr awdurdod am y gwaith a wnaed yn ystod cyfnodau anodd parhaus, wrth gael ei sgorio fel yr awdurdod gorau i ddangos gwelliant, a oedd yn gyflawniad nodedig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi bod Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2016/17 yn cael ei gyhoeddi.