Mater - penderfyniadau
Welsh in the Workplace Policy
20/11/2017 - Welsh in the Workplace Policy
Cyflwynodd y Prif Weithredwr Bolisi Drafft Y Gymraeg yn y Gweithle cyn gofyn i'r Cabinet ei fabwysiadu. Roedd yr ymrwymiadau yn y polisi yn adlewyrchu gofynion cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ac roeddent yn gymesur i Sir y Fflint.
Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau, fodd bynnag roedd Aelodau’n gallu cyflwyno arsylwadau trwy e-bost at y Prif Weithredwr cyn i’r Cabinet ystyried y mater.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn sicrhau fod gwaith yn cael ei wneud i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg;
(b) Bod Polisi’r Gymraeg yn y Gweithle yn cael ei nodi; a
(c) Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau blynyddol ar waith a wnaethpwyd i gyflawni Safonau’r Gymraeg.