Mater - penderfyniadau

Community Asset Transfer Programme

16/04/2018 - Biodiversity Duty Plan and Sustainability Policy

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas y Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth a’r Polisi Cynaliadwyedd a oedd wedi’u cynhyrchu mewn ymateb i’r dyletswydd gwella bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau o dan Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. 

 

 Roedd y Ddeddf yn mynnu fod rhaid i Awdurdodau Lleol geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth cyn belled a’i fod yn cyd-fynd ag ymarfer eu swyddogaethau yn briodol ac wrth wneud hynny, rhaid hyrwyddo gwytnwch ecosystemau.

 

Roedd gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i weithredu cynaliadwyedd ac arwain drwy esiampl o ran diogelu a gwella ein hamgylchedd naturiol.  Byddai Polisi’r Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn gosod allan dull gwaith Sir y Fflint i gyflawni’r her.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) fod hyn yn gysylltiedig â blaenoriaeth yng Nghynllun ‘Cyngor Gwyrdd’ y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cytuno ar y weledigaeth, yr amcanion a’r camau gweithredu a osodir allan yn y Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth; ac

 

(b)       Ardystio Polisi’r Amgylchedd a Chynaliadwyedd.