Mater - penderfyniadau

Revenue Budget Monitoring 2017/18 (Month 10)

05/06/2018 - Revenue Budget Monitoring 2017/18 (Month 10)

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid adroddiad i ddarparu adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 10). Dywedodd bod yr adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw wedi’i gyflwyno i’r Cabinet ar 23 Ionawr 2018 ac ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid bod yr adroddiad misol yn darparu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym mis 10 y flwyddyn ariannol ac yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid ar ragamcan o'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai fel y manylwyd yn yr adroddiad. Adroddodd hefyd ar y prif ystyriaethau o ran y sefyllfa ym Mis 10 a chyfeiriodd at sefyllfa gyffredinol Cronfa’r Cyngor, y rhagamcanion diweddaraf yn ystod y flwyddyn, olrhain risgiau a materion sy'n dod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn, cynnal a chadw yn y gaeaf, chwyddiant, arian wrth gefn a balansau. Dywedodd y Rheolwr Cyllid, o ran Cronfa'r Cyngor, fod balans y gronfa hapddigwyddiad ar 31 Mawrth 2018 yn £8.119m er y gostyngodd hyn i £5.714m wrth ystyried y cyfraniadau a gytunwyd ar gyfer cyllideb 2018/19. Dywedodd fod y balans cloi a ragamcanir ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai ar 31 Mawrth 2018 yn £1.081m.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n ag arbedion effeithlonrwydd i’w cyflawni yn 2017/18, darparodd y Prif Weithredwr ddiweddariad o ran y sefyllfa bresennol. Rhoddodd sylw hefyd i ddau achos o bwysau annisgwyl ar y gyllideb yn 2017/18 a 2018/19:- y pwysau ar y gyllideb cynnal a chadw yn y gaeaf, a Llywodraeth Cymru’n tynnu’r Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig o oddeutu £175K yn ei ôl (o 2018/19) a oedd yn cefnogi Saesneg fel Ail Iaith ac anghenion dysgu teithwyr.

 

Mewn perthynas â’r mater o gynnal a chadw’r gaeaf, gofynnodd y Cadeirydd a oedd modd i’r Awdurdod adennill y costau graenu priffyrdd. Eglurodd Swyddogion bod y gost o raenu’r A55 yn adenilladwy.

 

Wrth wneud sylw ar reoli risgiau a materion sy'n dod i'r amlwg, awgrymodd y Cynghorydd Richard Jones y dylid lobïo Llywodraeth Cymru i ddarparu ffynhonnell ganolog o gyllid yn hytrach na phob awdurdod lleol yn gorfod ymdopi ar eu pen eu hunain. Diolchodd i bawb am eu hymdrechion yn ystod y broses o osod y gyllideb a arweiniodd at ryddhau mwy o arian i gefnogi ysgolion.

 

Ail-bwysleisiodd y Cynghorydd Jones ei wrthwynebiad i’r newid ym mholisi cyfrifo i Isafswm Darpariaeth Refeniw. Sicrhaodd y Prif Weithredwr y Pwyllgor fod penderfyniad y Cyngor yngl?n ag Isafswm Darpariaeth Refeniw wedi’i wneud yn seiliedig ar y cyngor a gafwyd.

 

Wrth gyfeirio at yr ail argymhelliad ar dudalen 42 yr adroddiad, ceisiodd y Cynghorydd Woolley sicrwydd bod gan yr Awdurdod drosolwg da i sicrhau bod unrhyw broblem ariannol yn cael ei chanfod cyn gynted â phosibl mewn perthynas â gweithrediad dulliau darparu gwasanaeth gwahanol. Dywedodd y Prif Weithredwr fod Aura a NEWydd yn cwblhau eu blwyddyn gyntaf o fasnachu a sicrhaodd yr Aelodau eu bod yn cysylltu’n agos gyda’r Cyngor. Pwysleisiodd hefyd fod gan y ddau sefydliad fyrddau effeithiol i oruchwylio eu gweithgareddau.

 

Yn ystod trafodaethau, soniwyd am y gost o leoliadau y tu allan i’r sir yn ogystal â’r costau cysylltiedig a thymor hir. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton nad oedd digon o ddarpariaeth sector cyhoeddus a chyfeiriodd at y materion hanesyddol a diwylliannol a oedd yn gysylltiedig â gofal preswyl. Dywedodd bod angen gwneud mwy ar draws Gymru o ran ymyrraeth, cyllid ac ailfodelu darpariaeth, a bod rhaid i’r Awdurdod hefyd edrych yn fewnol ar y gwasanaethau yr oedd yn eu darparu i sicrhau eu bod yn addas i’r diben. Ychwanegodd y Prif Weithredwr y dylai Llywodraeth Cymru gynnal cronfa genedlaethol hyblyg i gefnogi cynghorau mewn angen.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Hilary McGuill sylw ar y materion cymhleth ac amrywiol a oedd yn gysylltiedig â lleoliadau y tu allan i’r sir a dywedodd bod angen canfod cyllid yn gynnar.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Richard Jones y dylid cysylltu ag awdurdodau lleol eraill i sefydlu unrhyw orwariant mewn addysg a gofal cymdeithasol gyda’r bwriad o lobïo Llywodraeth Cymru i sefydlu cronfa ganolog i fynd i’r afael ag anghenion cyllido.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at yr wybodaeth ar dudalen 54 yr adroddiad yn ymwneud â rheoli plâu a mynegodd bryder nad oedd y targedau blaenorol wedi bod yn rhai realistig. Gofynnodd i osod targedau incwm realistig o fewn Rheoli Plâu.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Richard Jones sylw ynghylch rheoli plâu a gofynnodd ai’r preswylwyr lleol neu'r datblygwr oedd yn gyfrifol am dalu’r ffioedd i gael gwared ar blâu o ganlyniad i ddatblygiad ar safle. Dywedodd y Prif Weithredwr fod hwn yn syniad diddorol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Haydn Bateman o ran y gorwariant o £2.200m a ragamcanwyd ar bortffolio Strydwedd a chludiant, dywedodd y Rheolwr Cyllid bod swm o £675K wedi’i gredydu i’r gyllideb fel elfen GHA Coaches o’r gorwariant. Cadarnhawyd bod y Cyngor wedi cael y cerbydau roedd yn berchen arnynt ac oedd yn cael eu gwerthu.

 

 

            Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, yn ystod y drafodaeth, ei fod wedi nodi’r sylwadau a wnaed am leoliadau y tu allan i’r sir a sut y gellir rheoli’r gorwariant ar y lleoliadau hyn ar draws Gymru yn well, ac yn ogystal, nododd y dylid gosod targedau incwm realistig o fewn Rheoli Plâu. Gofynnodd a ddylid dwyn y materion hyn ger bron y Cabinet fel materion a oedd yn pryderu’r pwyllgor hwn.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau bleidleisio ar yr argymhellion yn yr adroddiad a

phan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd hyn.Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom am gofnodi ei fod ef wedi ymatal rhag pleidleisio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2017/18 Mis 10

ac yn cadarnhau, ar yr achlysur hwn, bod y materion y mae’n dymuno eu cyflwyno

ger bron y Cabinet yn bryderon am leoliadau y tu allan i’r sir,

sut y gellir rheoli gorwariant yn well ar draws Gymru a gosod targedau incwm realistig ar gyfer Rheoli Plâu.