Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme (Social & Health Care)
04/04/2018 - Forward Work Programme (Social & Health Care)
Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, dywedodd yr Hwylusydd y byddai Cyfarfod y Pwyllgor, i’w gynnal ar 25 Ionawr 2018, yn cael ei gynnal yn Llys Jasmine, Yr Wyddgrug. Dywedodd hefyd y byddai cyfarfod y Pwyllgor gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael ei gynnal ar 13 Rhagfyr 2017.
Mewn ymateb i’r trafodaethau a oedd wedi’u cynnal yn gynharach yn ystod y cyfarfod am y Ganolfan Cymorth Cynnar, dywedodd yr Hwylusydd y byddai adroddiad i ddarparu diweddariad ar yr eitem hon yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Ionawr.
Tynnodd yr Hwylusydd sylw at baragraff 1.03 yr adroddiad a dywedodd, yn ystod cyfarfod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2017, penderfynwyd y dylid holi barn bob Pwyllgor am amseroedd y cyfarfodydd fel rhan o’u rhaglen gwaith i'r dyfodol. Cyfeiriodd at y dewisiadau, y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, a gofynnodd y Pwyllgor i fynegi barn o ran ei batrwm cyfarfod. Eglurodd y byddai’r canlyniad yn cael ei adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.
Awgrymodd y Cynghorydd Kevin Hughes y dylai’r Pwyllgor gadw at y trefniadau presennol a chyfarfod ar fore a phrynhawn Iau am 10.00am a 2.00 pm ac fe gafodd hyn ei gymeradwyo yn dilyn pleidlais.
PENDERFYNWYD:
(a) Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac
(c) Y dylai'r Hwylusydd roi adborth i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn nodi fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn cefnogi’r penderfyniad i gadw cyfarfodydd ar ddydd Iau am 10.00am a 2.00pm.