Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme (Social & Health Care)
24/11/2017 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, dywedodd yr Hwylusydd y byddai sesiwn diogelu corfforaethol cyn y cyfarfod nesaf. Dywedodd hefyd y byddai’r cyfarfod fis Rhagfyr gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn debygol o gael ei symud i 13 Rhagfyr ac y byddai’n rhoi gwybod i’r Pwyllgor am hyn pan oedd cadarnhad.
Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad cryno ar yr amserlen ddisgwyliedig ar gyfer Canolfan Iechyd y Fflint (disgwylid iddi fod ar agor yn gynnar fis Mehefin 2018) a chytunodd i ddosbarthu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
(a) Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.