Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme (Organisational Change)
28/11/2017 - Forward Work Programme (Organisational Change)
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Cymunedol ac Addysg yr adroddiad Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a oedd wedi cael ei ddiweddaru ar ôl cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.
Awgrymwyd y dylid trefnu cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor i dderbyn Cam 1 y gyllideb a chytunwyd ar hyn.
Awgrymodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) y dylid gwahodd Newydd ac Aura i ddod i gyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn. Byddai un cyfarfod yn derbyn adolygiad canol blwyddyn, gan roi esiamplau o arfer da, gyda’r ail yn gyfle i’r Pwyllgor dderbyn eu Cynlluniau Busnes am y flwyddyn i ddod. Cefnogwyd hyn.
Awgrymodd y Prif Swyddog hefyd y dylid neilltuo dau slot i’r Model Cyflenwi Amgen (MCA) Gofal Cymdeithasol. Nod y cyfarfod cyntaf fyddai derbyn gwiriad canol blwyddyn ar eu perfformiad yn ystod y flwyddyn gydag esiamplau o arferion da, a byddai’r ail gyfarfod yn gyfle i’r Pwyllgor dderbyn Cynllun Busnes am y flwyddyn i ddod. Wrth gefnogi’r awgrym hwnnw, cytunwyd hefyd y dylid gwahodd Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd i ddod i’r cyfarfod ar gyfer yr adolygiad MCA Gofal Cymdeithasol, a oedd wedi ei drefnu ar hyn o bryd ar gyfer 27 Tachwedd, gan nodi y gallai’r dyddiad newid.
Awgrymwyd a chytunwyd y dylid gwahodd cynrychiolydd y Cambrian Aquatics i’r cyfarfod ar 29 Ionawr 2018 ac y dylid cynnal y cyfarfod yn un o’r lleoliadau Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC).
Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Prif Weithredwr BT i gyfarfod yn y dyfodol i egluro strategaeth ehangach Open Reach i Aelodau, yn dilyn pryderon blaenorol a fynegwyd am fynediad digidol mewn rhannau gwledig o’r Sir. Awgrymodd y Cynghorydd Jones y dylid trefnu hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru (LlC) gyhoeddi ei ganfyddiadau yn dilyn ymarferiad ymgynghori diweddar ar anghenion band eang, a fyddai’n hysbysu cam nesaf cyflwyno'r gwasanaeth a fydd yn digwydd ddechrau 2018.
PENDERFYNWYD:
(a) Diwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i adlewyrchu’r eitemau a gytunwyd arnynt; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.