Mater - penderfyniadau
North Wales Fire & Rescue Authority Update
20/12/2017 - North Wales Fire & Rescue Authority Update
Croesawodd Prif Weithredwr y Cynghorwyr Meirick Lloyd Davies a Peter Lewis (Cadeirydd ac Is-Gadeirydd) a Dawn Docx (Dirprwy Brif Swyddog Tân) o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru i’r cyfarfod.
Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân gyflwyniad ar ddyfodol y gwasanaeth Tân ac Achub i gwmpasu’r pynciau a ganlyn:
· Diogelwch Cymunedol
· Galwadau Gwasanaeth Arbennig
· Ymateb a Diogelwch Tân Busnes
· Faint mae'n gostio i’w redeg?
· Cyllideb Cyfalaf
· Cronfeydd wrth gefn 2017/18
· Pwysau ar y Gyllideb
· Strategaeth Gadarn
Dywedodd y Prif Weithredwr fod y cyflwyniad yn adlewyrchu pwysau’r gyllideb a oedd yn cysoni gyda rhai’r Cyngor.
Gofynnodd y Cynghorydd Cunningham am y posibilrwydd o gyflwyno taliadau i ddarparu buddsoddiad mawr ei angen mewn gwasanaethau. Eglurodd Dirprwy Brif Swyddog Tân nad oedd taliadau am wasanaethau arbennig damweiniol yn cynhyrchu incwm sylweddol a bod anawsterau o ran codi tâl am ddarparu cyngor diogelwch oherwydd gwrthdaro buddiannau.
Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Jones, eglurwyd, oherwydd sefyllfa ariannol Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, fod penderfyniadau wedi’u gwneud i leihau neu atal gwasanaethau penodol – fel achub anifeiliaid mawr – nad oeddent yn orfodol, gan ystyried y lefelau risg sy'n rhan o hyn.
Yn ystod y drafodaeth, eglurwyd fod pwysau’r gyllideb a wynebir gan yr Awdurdod wedi dod i sefyllfa lle roedd angen trafodaeth gytbwys i nodi effeithlonrwydd pellach. Yr opsiynau i’w hystyried oedd gofyn am ardoll uwch gan gynghorau neu leihau darpariaeth o ran gweithwyr gorsafoedd y rhanbarth.
Dywedodd y Cynghorydd Jones, pe bai preswylwyr yn ymwybodol o’r rhagolwg o doriadau pellach, mae’n bosibl y byddant yn barod i dalu £3 ychwanegol bob blwyddyn fesul aelwyd i ddiogelu gwasanaethau. Dywedodd y Prif Weithredwr fod ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael ei dalu o Dreth y Cyngor ac y byddai unrhyw gynnydd o ran yr ardoll yn bwysau o ran cost ar y Cyngor. Dywedodd fod cynnydd pellach a argymhellwyd i Dreth y Cyngor 2017/18 i ddarparu ar gyfer yr ardoll uwch gan yr Awdurdod wedi’i ddiystyru gan Aelodau, gan arwain at bwysau ar y gyllideb ar gyfer y Cyngor. Roedd y Cynghorydd Jones yn teimlo y gallai preswylwyr gefnogi’r ardoll ychwanegol pe bai wedi’i glustnodi o fewn swm Treth y Cyngor.
Awgrymodd y Cadeirydd, gan nad oedd deddfwriaeth yn caniatáu hyn, gallai nodyn gael ei gynnwys ar filiau Treth y Cyngor i ddangos yr ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Dywedodd y Prif Weithredwr, efallai byddai Aelodau am wneud argymhelliad i roi ystyriaeth creadigol i’r wybodaeth a gynhyrchir i roi gyda’r bil Treth y Cyngor. Awgrymodd argymhelliad pellach ar gyfer y Cabinet a’r Cyngor i roi ystyriaeth ddyledus i unrhyw gynnydd a awgrymir o ran y tâl ardoll. Gofynnodd y Cynghorydd Peter Lewis, Is-Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, fod y Cyngor yn rhoi pwyslais cynnar ar ei ymateb.
Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion, a hefyd yr awgrym i roi sylwadau am newidiadau i ddeddfwriaeth a chynnig y Cynghorydd Woolley fod yr adroddiad yn cael ei nodi am ei eglurder a’i grynoder.
Gan mai hwn oedd ei chyfarfod olaf cyn cymryd rôl newydd ym Manceinion Fwyaf, diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Brif Swyddog Tân am ei chyflwyniad a chymerodd y cyfle i ddymuno’n dda iddi ar ran y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod cynrychiolwyr Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael diolch am eu presenoldeb a’u cyfraniad at y cyfarfod;
(b) Nodi’r adroddiad a chymeradwyo ei eglurder a’i grynoder;
(c) Bod newidiadau i’r deunyddiau sydd wedi’u cynnwys ym miliau Treth y Cyngor, i egluro cyllid Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru i dalwyr Treth y Cyngor, yn cael eu hymchwilio;
(d) Bod achos am newidiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth genedlaethol yn cael ei ddilyn i ddarparu rhagor o dryloywder o ran cyllid Awdurdod Tân ac Achub;
(e) Bod y Cabinet a’r Cyngor Sir yn cael gwybod bod y Pwyllgor wedi rhoi ystyriaeth ddyledus i dâl ardoll yr Awdurdod Tân ac Achub a’r angen am gynnydd; a
(f) Bod cynrychiolwyr Sir y Fflint ar yr Awdurdod Tân ac Achub yn cael gwybod ar gam cynnar am sefyllfa’r Cyngor ar gynnydd o ran cyllid Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.